Prosiect Edward

17eg Medi 2021

Ymunodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas, â swyddogion Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yng Ngholeg Crosskeys i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd cenedlaethol sy'n cael ei gynnal bob blwyddyn - Prosiect Edward.

 

Rhoddodd y sesiwn gipolwg gonest ar yr effaith mae gyrru diofal yn gallu ei gael ar bawb cysylltiedig trwy gyfrwng ffilmiau digyfaddawd ac atgofion personol emosiynol gan deulu rhywun a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd.

Roedd yn canolbwyntio ar y '5 Marwol' hefyd, sef prif achosion marwolaeth ac anafiadau difrifol ar y ffyrdd:  gyrru diofal, gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, peidio â gwisgo gwregys, defnyddio ffôn symudol a goryrru.

 

Meddai Eleri Thomas: “Mae pobl ifanc sydd newydd gymhwyso fel gyrwyr, sy’n deithwyr neu’n dysgu gyrru yn arbennig o agored i niwed ar y ffyrdd. 

 

“Mae Prosiect Edward yn ymgyrch ardderchog, ond rwyf am i bawb sy'n defnyddio'r ffyrdd yng Ngwent fod yn ddiogel 365 diwrnod y flwyddyn.

 

"Mae hanesion personol yn cael effaith anferth ar bobl a hoffwn ddiolch i Gwnstabl Gwirfoddol Rachael O'Connell o Heddlu Gwent a siaradodd â'r myfyrwyr am y ffordd yr oedd hi a'i theulu wedi cael eu heffeithio'n bersonol gan yrrwr yn defnyddio ffôn symudol wrth y llyw.

 

"Mae addysgu gyrwyr yn hollbwysig er mwyn cadw ein ffyrdd a chymunedau'n ddiogel. Hoffwn ganmol gwaith Heddlu Gwent a'i bartneriaid sy'n gweithio'n ddiflino i godi ymwybyddiaeth ac achub bywydau ledled Gwent."

 

Roedd y sesiwn yn un o gyfres o weithgareddau dan arweiniad Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a GanBwyll i nodi Prosiect Edward - Every Day Without a Road Death.