Pobl ifanc yn creu ffilm gwrth-fwlio bwerus

24ain Mehefin 2022

Mae myfyrwyr o Barth Dysgu Glynebwy Coleg Gwent wedi creu ffilm gwrth-fwlio drawiadol mewn partneriaeth gyda chwmni cyfryngau Cymru Creations.

Mae’r ffilm, ‘It all Started on a Monday’, yn dilyn hynt dau fyfyriwr coleg ifanc sy’n dioddef bwlio difeddwl a niweidiol.   

Nod y ffilm yw annog pobl ifanc i siarad am fwlio a chydnabod sut i geisio cymorth gan rywun maen nhw'n ymddiried ynddyn nhw os ydyn nhw'n ddioddefwr, neu os ydyn nhw wedi bod yn fwli eu hunain.

Cafodd myfyrwyr eu meithrin gan Cymru Creations i greu sgript a byrddau stori a chynhaliwyd gweithdai actio i'w helpu nhw i ddod yn sêr y ffilm.

Aeth dros 70 o bobl ifanc i ddangosiad cyntaf 'It all Started on a Monday" yn y Little Theatre yn Nhredegar.

Meddai Kevin Phillips o Cymru Creations: “Mae'r bobl ifanc yn gyfrifol am bob rhan o'r broses, o ddatblygu'r storïau, ysgrifennu'r sgriptiau, actio, ffilmio a golygu.

"Rydym yn eithriadol o falch o bob un ohonyn nhw, ac roedd yn wych gweld y ffilm bwysig hon yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar sgrin fawr."

Cafodd y gwaith ei ariannu trwy gronfa gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd sy'n rhoi arian i sefydliadau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc.

 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Dyma ffilm bwerus iawn sy’n darlunio canlyniadau arswydus bwlio.

 

“Mae'r bobl ifanc wedi trawsnewid pwnc sensitif yn ffilm deimladwy a phryfoclyd, ac rwy'n siŵr y bydd yn gwneud argraff fawr ar unrhyw un sy'n ei gwylio.  Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'i chynhyrchu.

“Nid yw bwlio’n dderbyniol ar unrhyw oedran nac yn unrhyw leoliad. Os ydych chi’n cael eich bwlio, neu'n poeni am rywun sy'n cael eu bwlio, mae cymorth ar gael felly peidiwch â dioddef yn dawel.”

 

 

Mae'r ffilm ar gael ar YouTube: https://youtu.be/_tqfeQCJw0M

Rydyn ni’n annog pobl ifanc sy’n profi bwlio neu’n poeni am ffrind i siarad â rhywun maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw. Mae nifer o sefydliadau sy'n gallu helpu hefyd.

Meic:

Gwefan: https://www.meiccymru.org/

Ffoniwch: 080880 23456

Neges Destun: 84001

 

Childline

Gwefan: https://www.childline.org.uk/

Ffoniwch: 0800 1111