Plant ysgol yn lledaenu neges o obaith i ddioddefwyr masnachu mewn plant

20fed Rhagfyr 2019

Mae plant o Ysgol Gynradd Trinant yng Nghaerffili wedi addurno coeden Nadolig gyda neges o obaith ac ewyllys da i blant sydd wedi dioddef trosedd, gan gynnwys rhai sydd wedi profi masnachu, cam-drin domestig, trais rhywiol a cham-fanteisio rhywiol.

Treuliodd y plant o adran Heddlu Bach yr ysgol y prynhawn yn gwneud addurniadau, cyn ymweld â chanolfan dioddefwyr Connect Gwent yng Nghoed-duon i addurno'r goeden. Yna cyfarfu'r plant â Siôn Corn i siarad am eu gobeithion a'u dymuniadau ar gyfer y Nadolig a derbyn anrheg yn rhodd gan Sainsburys ym Mhontllanfraith.

Ymunodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent a Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent â nhw ar gyfer y digwyddiad.

Dywedodd Eleri Thomas, y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd: "Gan fod y Nadolig ar ein gwarthaf mae'n bwysig ein bod yn cofio am y plant hynny ar draws y byd sy'n dioddef dan law troseddwyr cyfundrefnol.

“Yma yng Ngwent, rydym wedi ymroi i fynd i'r afael â thrais yn erbyn plant, gan gynnwys masnachu mewn plant, cam-fanteisio a thrais domestig, a gwnaeth y plant argraff fawr arnaf gyda'u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u tosturi tuag at ddioddefwyr y troseddau erchyll hyn.

"Rydym wedi ymroi i gefnogi dioddefwyr ifanc yng Ngwent, a dyna pam rydym wedi comisiynu Umbrella Cymru i ddarparu gwasanaeth arbenigol i bobl ifanc yng nghanolfan dioddefwyr Connect Gwent.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly: "Mae'r negeseuon gan y disgyblion yn Ysgol Gynradd Trinant yn ymgorffori ysbryd y Nadolig ond, yn drist, ni fydd pob plentyn o gwmpas y byd yn gallu ei fwynhau.

“Mae mynd i'r afael â masnachu a cham-fanteisio rhywiol ymysg blaenoriaethau Heddlu Gwent a rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i amddiffyn a diogelu pobl fregus, yn arbennig ein dinasyddion ieuengaf, yn ein cymdeithas pryd bynnag a ble bynnag y gallwn ni.”

Mae canolfan dioddefwyr Connect Gwent yn dod ag amrywiaeth o wasanaethau cymorth at ei gilydd ar gyfer dioddefwyr a thystion trosedd ac mae'r unig un o'i math yng Nghymru. Mae Umbrella Cymru wedi cael ei gomisiynu i roi cymorth i unrhyw berson ifanc sydd wedi cael ei effeithio gan drosedd yng Ngwent.

Am gymorth, ffoniwch 0300 123 21 33. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.