Plant Ysgol Gynradd St Andrews yn holi'r comisiynydd

18fed Mai 2022

Mae plant o Ysgol Gynradd St Andrews yng Nghasnewydd wedi cwrdd â Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, am sesiwn holi ac ateb i ddysgu am ei rôl a'i gyfrifoldebau.

 

Roedd y disgyblion o uned Heddlu Bach yr ysgol yn chwilfrydig iawn ynghylch sut y daeth y comisiynydd i'w swydd, ers faint mae wedi bod yn y swydd ac, yn fwyaf pwysig, beth oedd ei hoff beth am y swydd.

 

Nod yr Heddlu Bach yw rhoi profiadau cadarnhaol o'r heddlu i blant a phobl ifanc o oedran cynnar ac annog mwy o ryngweithio rhwng pobl ifanc a'r gymuned.

 

Siaradodd y comisiynydd am ei frwdfrydedd dros gwrdd â phobl newydd a gallu rhoi'r adnoddau i Heddlu Gwent i'w helpu nhw i amddiffyn plant a phobl ifanc yng Ngwent.

 

Gan droi'r byrddau, gofynnodd i'r grŵp pa broblemau yr hoffent ganolbwyntio arnynt i wella diogelwch y gymuned yn yr ysgol.

 

Hoffai'r grŵp fynd i'r afael â pharcio anghyfreithlon ac anystyriol y tu allan i'r ysgol. Maen nhw'n bwriadu dylunio posteri a'u gosod nhw y tu allan i'r ysgol i annog oedolion i feddwl am eu gweithredoedd, a'r effaith y gallent ei chael ar ddisgyblion.

 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae'r cynllun Heddlu Bach yn helpu disgyblion i chwarae rhan gadarnhaol yn eu cymuned. Roedd yn bleser cwrdd â'r disgyblion ac roeddwn yn croesawu eu cwestiynau.

 

“Rwy'n drist i glywed eu bod nhw'n pryderu ac yn rhwystredig ynghylch y problemau parcio yn yr ysgol. Edrychaf ymlaen at glywed sut mae eu syniadau a gweithredoedd yn helpu i wella'r sefyllfa."