Penodi Contractwyr i Adeiladu Pencadlys
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi penodi BAM Construction yng Nghymru i ddarparu adeilad Pencadlys newydd o'r radd flaenaf i Heddlu Gwent yng Nghwmbrân.
Mae BAM, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, wedi gweithio ar ddwsinau o gynlluniau proffil uchel yn Ne Cymru a chafodd y cwmni ei benodi ar ôl proses gystadleuol wedi'i rheoli gan fframwaith Gweithgor Cyfalaf Ysgolion De-ddwyrain Cymru (SEWSCAP). Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, hefyd wedi prynu'r tir yn Llantarnam, lle bydd y pencadlys newydd wedi'i leoli, oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Mae'r newyddion heddiw yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Mr Cuthbert ei fod yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o holl ystâd yr heddlu yng Ngwent i sicrhau bod holl adeiladau ac eiddo'r heddlu yn addas at ofynion plismona modern ac yn darparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y dinesydd. Mae symud i Bencadlys newydd yr Heddlu yn rhan o gam cyntaf yr adolygiad.
Mae safle presennol y pencadlys yng Nghroesyceiliog, Cwmbrân wedi gwasanaethu Heddlu Gwent yn dda dros y 50 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r adeilad bellach wedi cyrraedd oedran lle mae galw brys am atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw drud, hanfodol ac nid yw'n ariannol hyfyw mwyach. Mae cost cynllunio, adeiladu a symud i safle newydd yn sylweddol is na threuliau adnewyddu safle'r pencadlys presennol, sydd â gwerth ailwerthu uchel posibl ac sy'n darparu cyfle datblygu gwych.
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a Heddlu Gwent bellach yn gweithio gyda BAM i ddatblygu cynllun y bwriedir ei gyflwyno ddiwedd 2017.
Mae'r ymgynghoriaeth cynllunio, peirianneg a rheoli prosiect, Atkins, yn darparu'r holl elfennau dylunio. Mae cynigion cychwynnol yn cynnwys pencadlys 5000m2 o'r radd flaenaf a fyddai'n caniatáu i Heddlu Gwent gyflwyno ‘gweithio hyblyg’ ym mhob rhan o'r gwasanaeth a helpu'r gwaith o symud tuag at ‘Blismona Digidol’. Bydd yr adeilad newydd hefyd yn cynnwys nodweddion arbed ynni newydd sydd wedi'u cynllunio i leihau costau rhedeg ac ôl troed carbon Heddlu Gwent a bydd 50% yn rhatach i'w redeg na'r pencadlys presennol.
Bydd y pencadlys newydd wedi'i leoli mewn ardal brydferth gyda lle parcio aml-lawr ar safle cyfagos. Yn amodol ar gymeradwyaeth y cynlluniau, bydd y prosiect yn dechrau ar y safle haf nesaf.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn gyfrifol am ystâd yr heddlu yng Ngwent sy'n cynnwys holl orsafoedd, tir ac asedau'r heddlu.
Gan dynnu sylw at sut y bydd symud i'r pencadlys newydd yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr nawr, ac yn y tymor hir, dywedodd Mr Cuthbert: “Adeiladu pencadlys newydd yw'r ffordd fwyaf effeithiol, effeithlon a darbodus o sicrhau bod Heddlu Gwent yn addas at y diben ar gyfer y dyfodol ac y gall barhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd i bobl Gwent. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd y pencadlys newydd yn gwasanaethu ein trigolion a swyddogion a staff Heddlu Gwent yn dda am ddegawdau i ddod. Bydd y prosiect adeiladu hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned a'r economi leol o ran y cyflenwadau a'r deunyddiau sy'n ofynnol a'r cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth a gaiff eu creu.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Julian Williams: “Mae natur Plismona yn newid ac mae'n rhaid i ni ddatblygu ein gwasanaeth yn unol â hynny. Fel Heddlu rydym yn edrych ymlaen at gael lleoliad newydd ar gyfer Gweithrediadau. Fodd bynnag, ein ffocws parhaus fydd diogelu a rhoi sicrwydd i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”
Dywedodd Craig Allen, Cyfarwyddwr Adeiladu BAM yng Nghaerdydd, sy'n gyfrifol am Dde Cymru: “Yn genedlaethol, mae BAM wedi cyflawni cyfres gref o gynlluniau cyfraith a threfn proffil uchel, ar ôl creu pencadlysoedd newydd Heddlu Glannau Humber a'r Heddlu Metropolitanaidd. Mae gennym gadwyn gyflenwi hirdymor ac o ansawdd uchel ar draws De Cymru. Mae gan ein busnes rheoli cyfleusterau brofiad o reoli amgylcheddau mewnol yr heddlu. Mae hyn yn llywio ein gallu i gyflawni datblygiad o ansawdd uchel ar gyfer Gwent ac yn ychwanegu at ein portffolio cryf a hanesyddol o gynlluniau yn Ne Cymru.”