Ni fydd trais a cham-drin yn cael eu goddef ar y stryd fawr

17eg Mehefin 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi condemnio'r broblem gynyddol o drais a sarhad tuag at staff manwerthu yn y DU.

Mae dros 450 o ddigwyddiadau treisgar neu sarhaus yn cael eu cyflawni bob dydd mewn siopau ledled y DU, yn ôl gwybodaeth gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain.

Mae hyn wedi arwain at deimlad o ofn a phryder yn y gwaith ymysg staff manwerthu, yn ogystal â phryder cynyddol am eu diogelwch corfforol a'u lles meddyliol. 

Cyflwynwyd y wybodaeth hon mewn digwyddiad bord gron a ddaeth â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a phrif fanwerthwyr y DU at ei gilydd i drafod y broblem.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae'r trais a sarhad rydym yn ei weld yn cael ei anelu at staff manwerthu yn achos pryder. Mae'r rhain yn droseddau disynnwyr sy'n gallu dinistrio bywydau, achosi pobl i fod yn rhy ofnus i weithio ac achosi niwed a rhwyg yn ein cymunedau.

“Mae Heddlu Gwent yn cymryd y mater hwn o ddifrif a gofynnaf yn daer ar unrhyw un sydd wedi profi trais neu sarhad i riportio'r mater er mwyn iddo gael ei ymchwilio'n iawn. Mae cymorth a chefnogaeth bwrpasol ar gael i ddioddefwyr.

Mae ymchwil yn dangos hefyd bod manwerthwyr yn colli dros £900 miliwn bob blwyddyn oherwydd dwyn ar raddfa fach a dwyn o siopau.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae ymgyrch newydd Heddlu Gwent, Dangos y Drws i Drosedd, wedi cael ei brofi i fod yn ffordd o leihau dwyn ac ad-droseddu, ac rwy'n falch iawn ein bod yn arwain yng Nghymru trwy ei gyflwyno yma. Trwy wneud siopau a busnesau'n fwy cadarn rydym yn anfon neges glir at droseddwyr na fydd eu gweithredoedd yn cael eu goddef yma."

Gellir riportio digwyddiadau drwy ffonio 101, neu ar dudalen Facebook Heddlu Gwent.

Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i ddioddefwyr gan ganolfan dioddefwyr Connect Gwent: www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent neu drwy ffonio 0300 123 2133.