Mae’n rhaid i wasanaethau cyhoeddus wneud mwy i fynd i'r afael â bod yn agored i niwed yn ystod plentyndod
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn galw ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu ffyrdd newydd o atal a lleihau troseddoldeb ymhlith plant a chamfanteisio ar blant.
Daw'r alwad yn dilyn adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a ganfu sbardunau cyffredin mewn grŵp o blant lleol a nodwyd drwy ddata troseddu.
Roedd y sbardunau hyn yn cynnwys trawma yn y cartref, fel bod yn dyst neu i gam-drin domestig neu gael profiad ohono, a heriau o fewn addysg, gan gynnwys anhawster i bontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd, a gwahardd o'r ysgol.
Mae'r adroddiad, ‘Deall y Sbardunau’, yn nodi cyfres o welliannau y gall gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eu gwneud i fynd i'r afael â'r materion hyn cyn gynted â phosibl a lleihau'r risg y bydd plant yn dod yn agored i gamfanteisio troseddol.
Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae ‘Deall y Sbardunau’ yn gwneud cyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth gyfunol o gamfanteisio’n droseddol ac yn rhywiol ar blant yng Nghymru drwy ddarparu sylfaen dystiolaeth i lywio camau gweithredu a gwella canlyniadau i blant sy'n agored i niwed.
"Mae canfyddiadau'r adroddiad yn llwm ac yn dangos yr effaith ddinistriol y mae troseddoldeb a chamfanteisio yn ei chael ar fywydau plant. Yng Nghymru rydym eisoes wedi cymryd camau sylweddol i fynd i'r afael â'r heriau hyn, ond gallwn ni, ac mae'n rhaid i ni, wneud mwy.
"Rwy'n credu bod gennym ni gyfle gwirioneddol yn awr i fyfyrio ar arferion presennol ac ystyried ffyrdd newydd o atal a lleihau troseddoldeb ymhlith plant a chamfanteisio ar blant. Rwy'n hyderus y byddwn yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn datblygu ein gwaith i wella canlyniadau bywyd ein plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru."
Lluniwyd yr adroddiad yn rhan o brosiect ymchwil amlasiantaethol a gynhaliwyd gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd, Heddlu Gwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Rydym yn gwybod y gall bywyd fod â heriau i rai plant sy'n eu gadael yn agored i gamfanteisio gan droseddwyr neu eu cychwyn ar lwybr sy'n arwain at droseddu.
“Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr heriau hyn ac yn trafod yr hyn y gall yr heddlu a gwasanaethau cyhoeddus eraill ei wneud i helpu i sicrhau'r canlyniadau gorau i blant a'u teuluoedd. Er mwyn gwneud hyn, mae'n bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i weithredu cyn gynted â phosibl fel y gallwn nodi ac amddiffyn plant sydd mewn perygl o niwed. Mae Heddlu Gwent wedi ymrwymo i roi anghenion plant wrth wraidd yr hyn a wnawn. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid ac yn sicrhau ein bod yno i gefnogi plant pan fyddan nhw ein hangen fwyaf.”
Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip:
"Mae'r adroddiad ‘Deall y Sbardunau’ yn ymdrin mewn ffordd gadarnhaol iawn â materion go iawn sy'n ymwneud â bod yn agored i niwed yn ystod plentyndod. Mae’r Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan yn nodi'r weithdrefn ar gyfer adnabod a diogelu plant ledled Cymru sydd wedi dioddef trawma ac sydd mewn perygl o niwed, a'u diogelu rhag camfanteisio. Mae hyn yn rhan hanfodol o wella canlyniadau i blant sy'n agored i niwed, a lleihau'r risg o droseddoldeb ymhlith plant.
“Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu nifer o brosiectau a ddarperir gan bartneriaid, sy'n hybu ymgysylltiad cadarnhaol i bobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu. Mae'r rhain yn cynnwys y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid, a'r Grant Plant a Chymunedau, sy'n helpu i fynd i'r afael ag anghenion rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rydym hefyd wedi comisiynu hyfforddiant i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o gam-drin domestig.
“Rwy’n croesawu’r argymhelliad i’r holl asiantaethau gydweithio i gynorthwyo plant sydd wedi dioddef profiadau trawmatig. Pobl sy'n gweithio gyda phlant o ddydd i ddydd sydd yn y sefyllfa orau i nodi arwyddion risg ac atal ein plant mwyaf agored i niwed rhag cael camfanteisio."
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Cyfrifoldeb pob un ohonom ni yw amddiffyn plant sy'n agored i niwed rhag bod yn ddioddefwyr ysglyfaethwyr rhywiol a throseddol ac atal pobl ifanc rhag bod yn rhan o droseddu. Mae’n rhaid iddo fod wrth wraidd yr hyn y mae pob sefydliad yn ei wneud ac mae’n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i dorri'r cylch.
“Dyna pam mae’r adroddiad hwn mor werthfawr oherwydd bydd yn ein cynorthwyo i gymryd y camau mwyaf pendant ac ystyrlon i atal bywydau ifanc, teuluoedd a chymunedau rhag cael eu dinistrio gan droseddwyr digalon. Mae'r cyngor wedi ymrwymo i wella ymatebion gwasanaethau yn fwy er mwyn diogelu'r plant hynny sydd fwyaf agored i niwed ac mae eisoes yn gweithredu ar ganfyddiadau'r adroddiad.”