Llywodraeth Cymru i ariannu swyddogion cymorth cymunedol newydd

26ain Awst 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ariannu 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr Heddlu newydd yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys 20 swyddog newydd a fydd yn gweithio ledled rhanbarth Gwent.

Mae'r 100 swyddog cymorth cymunedol ychwanegol yn dod â'r nifer sydd wedi cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i 600.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert: “Swyddogion Cymorth Cymunedol yw'r cyswllt rhwng yr heddlu a'n cymunedau, yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a datblygu cymunedau mwy cydlynus ledled Gwent. Nid yw'n swydd hawdd ac mae swyddogion cymorth cymunedol yn aml yn rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

"Bydd y swyddogion newydd hyn yn ychwanegiad derbyniol iawn ac yn gaffaeliad mawr i'n cymunedau."

Ewch i wefan Heddlu Gwent i weld y wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio swyddogion cymorth cymunedol.