Lleisiau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn allweddol i newid ffordd o feddwl pobl

15fed Hydref 2020

Yr wythnos ddiwethaf cefais y pleser o gwrdd â thrigolion Gwent, Raffi Abbas a Marilyn Gwet, a gawsant eu hunain flynyddoedd yn ôl yn byw yng Nghymru fel ffoaduriaid. Maen nhw'n galw Gwent yn gartref bellach ac roedd yn ddifyr iawn clywed am eu siwrneiau personol. Rhannodd Marilyn a Raffi eu dyhead gyda mi i addysgu cymunedau am dranc ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rwyf yn cytuno bod angen i gymunedau glywed lleisiau fel eu rhai nhw, er mwyn deall pam mae pobl a theuluoedd yn ffoi o amgylchiadau dychrynllyd fel hil-laddiad a rhyfel.

 

Rwy'n teimlo gofid mawr pan fydd rhai pobl yn gwahaniaethu yn erbyn ac yn gwrthwynebu ceiswyr lloches a ffoaduriaid, fel sydd wedi bod yn amlwg yn ddiweddar ym Mhenalun, Sir Benfro. Mae geiriau a gweithredoedd cas yn gallu cael effaith niweidiol ar bobl eraill, yn fwy felly os ydynt mewn gwlad newydd.  Yng Ngwent, mae llawer o sefydliadau sy'n helpu a chefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Rwyf yn falch bod fy swyddfa'n gallu ariannu prosiect The Sanctuary yng Nghasnewydd, sy'n helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc. Mae'n darparu cyngor, mentora a sesiynau cefnogi a gweithgareddau cymdeithasol, sy'n hollbwysig i wneud gwahaniaeth i fywydau ceiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc.  

 

Mae unigolion a theuluoedd sydd mewn angen taer yn cael eu hecsbloetio gan grwpiau trosedd difrifol a threfnedig. Mae troseddwyr yn cam-fanteisio ar bobl fregus, yn rhoi bywydau mewn perygl er mwyn gwneud elw. Yn y pen draw, rydym angen i luoedd heddlu weithio gyda'i gilydd, gartref ac yn rhyngwladol, i ddelio gyda throseddwyr. Pan fydd ceiswyr lloches yn cyrraedd ein glannau, mae angen i ni weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â chanfyddiad y cyhoedd er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd i gael lle diogel i fyw.

 

Am ragor o wybodaeth am The Sanctuary, ewch i: https://www.thegap.wales/sanctuary/

 

 

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trosedd casineb, riportiwch y mater. 

Ffoniwch 101 (diargyfwng) a ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Siaradwch â @heddlugwent ar y cyfryngau cymdeithasol

Os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn siarad â'r heddlu, gallwch riportio'n gyfrinachol i Connect Gwent 0300 123 2133 neu e-bostiwchconnectgwent@gwent.pnn.police.uk