Heddlu Gwent yn cynnal twrnamaint pêl-droed i hybu iechyd meddwl a lles cadarnhaol i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent

10fed Mai 2022

Cynhaliodd Heddlu Gwent dwrnamaint pêl-droed dan 11 i dimau ledled Blaenau Gwent ar gae Keith Williams yn Abertyleri.

 

Roedd y diwrnod yn gyfle i wneud chwaraeon ond roedd hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl cadarnhaol yn dilyn marwolaethau trasig dau berson ifanc o'r gymuned leol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Ymrestrodd swyddogion o dîm cymdogaeth Blaenau Gwent yr elusen iechyd meddwl leol Tidy Butt i helpu'r bobl ifanc i ddeall eu hiechyd meddwl a'u lles yn well. Nod y sesiwn oedd addysgu a grymuso'r chwaraewyr pêl-droed ifanc a rhoi'r hyder a'r offer iddyn nhw wynebu heriau bywyd.

 

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Mae chwaraeon yn arf gwych i helpu pobl ifanc i ddod at ei gilydd ar gyfer nod cyffredin ac roedd y twrnamaint yn llwyfan i gyfleu neges ddifrifol iawn i'r chwaraewyr a'u teulu a'u ffrindiau.

 

“Rwy'n cymeradwyo gwaith swyddogion Blaenau Gwent a Tidy Butt, ac roeddwn yn falch iawn o allu darparu cyllid o fy Nghronfa Effaith Gadarnhaol i helpu Heddlu Gwent i gydlynu'r digwyddiad.

 

“Da iawn i bawb a gymerodd ran.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am Tidy Butt: www.tidybutt.co.uk/ neu anfonwch e-bost i matthew@tidybutt.co.uk