Hawl i Holi Ieuenctid Gwent

2il Chwefror 2024

Cynhelir ein digwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid blynyddol ddydd Mercher 28 Chwefror yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Nhŷ Penallta.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan bobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent ac mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn digwyddiad 'Hawl i Holi' a gofyn cwestiynau i rai o brif wneuthurwyr penderfyniadau Gwent.

Sefydlwyd Hawl i Holi Ieuenctid gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert yn 2019. Dywedodd: “Mae Hawl i Holi Ieuenctid yn cael ei ysgogi a’i gynnal gan bobl ifanc. Mae'r penderfyniadau rydym yn eu gwneud fel cynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cael effaith uniongyrchol ar eu bywydau nhw ac mae'n iawn eu bod nhw'n cael y cyfle i'n dwyn ni i gyfrif."

Gall pobl ifanc gofrestru ac archebu eu tocynnau yma