Gyda'n gilydd gallwn gadw plant, pobl ifanc ac oedolion yn ddiogel

15fed Gorffennaf 2020

Mae’n bwysicach nag erioed yn awr ein bod ni’n gofalu am ein gilydd. Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i annog pobl i gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol os ydyn nhw'n pryderu bod aelod o'r teulu, ffrind neu gymydog mewn perygl o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio.

Mae diogelu ein cymunedau rhag cam-drin a thrais yn hanfodol bwysig ac yn un o flaenoriaethau fy swyddfa i a Heddlu Gwent. Rwy'n annog cymunedau i fod yn ymwybodol a deall sut y gallant helpu os ydynt yn amau bod risg i rywun neu fod rhywun mewn perygl.

Rydym yn lwcus yma yng Ngwent fod gennym amrywiaeth eang o wasanaethau wrth law i helpu.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Safe Help https://llyw.cymru/iach-a-diogel/cadw-pobl-yn-ddiogel  am wasanaethau cymdeithasol lleol a sut i fynegi eich pryderon. Os oes mwy o frys ar eich galwad, ffoniwch 101, neu mewn argyfwng ffoniwch 999.

Mae gwefan Diogelu Gwent hefyd yn darparu gwybodaeth a chyngor cynhwysfawr i drigolion a gweithwyr proffesiynol ar amrywiaeth o faterion

https://www.gwentsafeguarding.org.uk/cy/Home.aspx 

  • Diogelu Plant
  • Diogelu Oedolion
  • Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)