Gwrando ar leisiau ifanc
Yr wythnos hon mae fy nhîm wedi bod yn gweithio gyda chlwstwr o ysgolion ym mwrdeistref Caerffili, yn datblygu ein gweithdai mannau diogel.
Mae'r rhain yn cynnwys siarad â phlant am yr ardaloedd yn eu cymuned lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel neu’n anniogel a thrafod y rhesymau dros y teimladau hyn. Yna rydym yn siarad am yr hyn maen nhw'n teimlo sydd ei angen yn eu cymuned i'w helpu nhw i deimlo'n fwy diogel. Rydym hefyd yn trafod eu canfyddiadau a'u dealltwriaeth nhw o'r heddlu ac, yn hollbwysig, a ydynt yn gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud i gysylltu â'r heddlu mewn argyfwng.
Aeth y naw sesiwn yn arbennig o dda, a chawsom gwmni swyddogion cymorth cymunedol o'r tîm plismona lleol, sy'n helpu plant i ddod yn gyfarwydd â'r swyddogion y gallant ddod ar eu traws yn eu cymunedau eu hunain.
Bydd yr wybodaeth mae'r plant wedi ei rhoi i ni yn cael ei chasglu yn awr a byddwn yn rhoi adroddiad i'r tîm plismona cymdogaeth a fydd yn helpu i lywio eu gwaith cynllunio. Bydd yr awdurdod lleol yn cael ei hysbysu am bryderon ynghylch sbwriel, difrod i gyfarpar chwarae a phroblemau eraill.
Dim ond un o'r ffyrdd rwyf yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yw hon.