Gwobrau Pride of Gwent
Mae seremoni Gwobrau Pride of Gwent 2020/21 yn cael ei chynnal ddydd Iau 11 Mawrth.
Mae'r seremoni wobrwyo flynyddol yn cydnabod y bobl hynny sy'n byw a gweithio yng Ngwent sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i'w cymunedau.
Bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan Simon Weston a gellir ei weld yn fyw ar dudalen Facebook South Wales Argus o 7pm.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Rwyf yn falch i fod yn noddi Gwobr Arwr y Gymuned eto eleni, ar y cyd â Heddlu Gwent.
“Un o'r pethau cadarnhaol ynghylch y pandemig Covid yw bod cymunedau wedi cyd-dynnu i gefnogi ei gilydd fel nas gwelwyd o'r blaen ac rwyf yn siŵr y bydd gan bob cymuned yng Ngwent ei harwyr ei hun i'w dathlu.
“Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sydd wedi cael eu henwebu. Rydych yn glod i'ch ffrindiau, eich teulu a'ch cymunedau.”