Gwobrau Heddlu Gwent 2020: Urban Circle

13eg Awst 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cyflwyno gwobr i'r sefydliad celfyddydau annibynnol Urban Circle fel rhan o Wobrau Heddlu Gwent 2020.

Ers 2018, mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi rhoi cyllid i brosiect U-Turn Urban Circle sy'n defnyddio'r celfyddydau creadigol i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol sy'n effeithio ar bobl ifanc.

Mae'r cyllid yn talu i arweinydd prosiect, swyddog ymgysylltu a gweithiwr ieuenctid gynnal cyfres o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.

Yn ogystal â chael profiad yn cynllunio digwyddiadau mawr, mae'r bobl ifanc sy'n rhan o brosiect U-Turn yn ennill cymwysterau mewn meysydd megis gwaith ieuenctid, chwaraeon, stiwardio a chymorth cyntaf, sy'n eu helpu nhw i gael gwaith cyflogedig.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, “Mae'n bleser mawr gen i gyflwyno'r wobr hon i Urban Circle.

"Mae'r gwaith mae Urban Circle yn ei wneud wedi rhoi cymorth i gannoedd o bobl ifanc yng Nghasnewydd ddysgu, magu hyder a gwneud ffrindiau ac, yn bwysig iawn, mae wedi rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swyddi yn y dyfodol.

"Fel arall, gallai llawer o'r bobl ifanc hyn fod mewn perygl o fod yn ymwneud â throsedd difrifol a threfnedig, ac mae'r prosiect hwn yn rhoi cyfle iddynt ddilyn llwybr gwahanol yn eu bywydau."

Mae Urban Circle wedi cynnal rhai digwyddiadau nodedig ar adegau allweddol yn y flwyddyn. Diolch i ddigwyddiad Calan Gaeaf yn 2018 bu cwymp anferth yn nifer y digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gafodd eu riportio yng Nghasnewydd y noson honno a llwyddodd 'Gŵyl Haf' dau ddiwrnod yn Nhŷ Tredegar yn 2019 i ddenu cannoedd o bobl ifanc a theuluoedd o bob rhan o Went.

Dywedodd Loren Henry, cyd-sylfaenydd Urban Circle: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y wobr hon a’r gydnabyddiaeth am y gwaith rydym yn ei wneud gyda phobl ifanc.

“Mae gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi ein galluogi ni i roi cymorth i gannoedd o bobl ifanc yng Nghasnewydd a chreu cyfleoedd iddynt ddefnyddio eu hegni i fod yn rhan o weithgareddau creadigol, cadarnhaol ac i roi rhywbeth yn ôl i'w cymunedau.”