Gwobr i gydnabod gwaith partneriaeth sy'n mynd i'r afael â throsedd difrifol a threfnedig yng Nghasnewydd

18fed Medi 2020

Mae partneriaeth rhwng Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cael canmoliaeth gan Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, fel rhan o wobrau 2020 Heddlu Gwent.

Mae Partneriaeth Trosedd Difrifol a Threfnedig Casnewydd yn dwyn partneriaid o'r maes plismona, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector at ei gilydd i ddarparu ymyriadau i bobl ifanc bregus sydd mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i drosedd difrifol a threfnedig.

Mae'r tîm yn gweithio gyda sefydliadau fel Ymddiriedolaeth St Giles, Crimestoppers a Barnados i ddarparu rhaglen sy'n addysgu pobl ifanc am beryglon trosedd difrifol a threfnedig, ac sy'n eu hannog nhw i riportio eu pryderon i bob un o'r naw ysgol uwchradd yng Nghasnewydd.

Maen nhw hefyd yn gweithio i ddarparu ymyriadau pwrpasol ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd wedi cael eu canfod i fod yn y categori risg uchel.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Mae trosedd difrifol a threfnedig yn effeithio ar bob cymuned ledled Cymru ac ni all unrhyw asiantaeth unigol ddatrys y broblem hon.

“Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, mae angen i'r heddlu, busnesau, awdurdodau lleol, y GIG, y trydydd sector, ysgolion a thrigolion weithio gyda'i gilydd. Mae angen ymyriad cynnar pwrpasol arnom ni. Mae angen gwydnwch cymunedol arnom ni.

”Mae'r tîm yn gwneud gwaith arloesol yma yng Ngwent sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau, yn rhoi cymorth i bobl ifanc bregus ac yn helpu i gadw trigolion yn ddiogel."

Dywedodd Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae’r gwaith cydweithredol ac arloesol sy’n cael ei wneud yng Nghasnewydd i amddiffyn pobl ifanc a’u hatal nhw rhag dechrau ymwneud ag ymddygiad peryglus mor bwysig.

“Mae’r holl bartneriaid yn benderfynol o gadw pobl ifanc bregus allan o afael troseddwyr difrifol a threfnedig, er eu mwyn nhw eu hunain ond hefyd oherwydd yr effaith mae ymddygiad troseddol o’r fath yn ei gael ar unigolion, teuluoedd, cymunedau a’n dinas.”