Gwneuthurwyr ffilm ifanc Blaenau Gwent yn creu fideo addysgol i helpu pobl i gadw'n ddiogel

9fed Gorffennaf 2020

Mae plant o Flaenau Gwent wedi bod yn gweithio gyda chwmni cyfryngau sydd wedi ennill sawl gwobr i sgriptio, cyfarwyddo a ffilmio fideos addysgol. Mae'r fideos yn dangos i bobl sut i olchi eu dwylo'n gywir a sut i gadw pellter cymdeithasol er mwyn cadw'n ddiogel yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Mae'r bobl ifanc wedi bod yn gweithio gyda Cymru Creations, cwmni o Dredegar, ar brosiect sy'n cael ei ariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu i greu ffilmiau sy'n seiliedig ar brofiadau eu bywydau eu hunain.

Ers dechrau'r cyfyngiadau symud maen nhw wedi parhau i weithio gartref, gyda chymorth gan eu tiwtoriaid, yn gweithio ar sgriptiau ac ymarfer gydag offer fideo.

Dywedodd Kevin Phillips o Cymru Creations: "Mae ein tiwtoriaid wedi bod yn rhoi cymorth i'n myfyrwyr trwy gydol y cyfnod cyfyngiadau symud i wneud yn siŵr bod ganddynt y gefnogaeth maen nhw ei hangen i barhau i wneud eu ffilmiau.

“Rydym wedi bod yn gweithio o bell gyda'n holl bobl ifanc i wneud yn siŵr eu bod yn cadw'n brysur ac yn gadarnhaol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym yn falch iawn o bob un ohonyn nhw am y ffordd maen nhw wedi llwyddo i barhau i weithio ar eu ffilmiau ac rydym yn gobeithio eu gweld nhw yn y cnawd eto cyn bo hir."

Mae'r bobl ifanc yn gyfrifol am bob rhan o'r broses, o ddatblygu'r storïau, ysgrifennu'r sgriptiau, actio, ffilmio a golygu.

Ar ddiwedd y prosiect, bydd pob myfyriwr yn derbyn Gwobr y Celfyddydau mewn gwneud ffilmiau o Trinity College, Llundain, y mae Cymru Creations yn gweithio'n agos gyda nhw i ddarparu’r cam cyntaf tuag at gymhwyster sy'n cyfateb i TGAU yn y Celfyddydau.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae'r bobl ifanc hyn wedi gwneud gwaith ardderchog. Mae'r prosiect hwn wedi rhoi rhywbeth cadarnhaol iddyn nhw ganolbwyntio arno ar adeg anodd iawn, ac mae wedi helpu i sicrhau eu bod yn cael cyfle i fod yn greadigol a pharhau i ddysgu yn ystod y cyfyngiadau symud."

Derbyniodd Cymru Creations gyllid gan Gronfa Gymunedol Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent. Mae’r gronfa'n rhoi cyllid i sefydliadau dielw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a allai fod mewn perygl o fynd i droseddu neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol, neu sydd wedi dioddef trosedd.

Gallwch wylio'r fideos ar sianel YouTube Academi Ffilm Blaenau Gwent.