Gwirfoddolwyr ifanc yr heddlu'n ysgrifennu llythyrau at gleifion ynysig

28ain Mai 2020

Mae pobl ifanc yng Ngwent wedi bod yn ysgrifennu llythyrau a negeseuon o gefnogaeth i breswylwyr cartrefi gofal a chleifion ysbyty nad ydynt yn gallu derbyn ymwelwyr oherwydd Coronafeirws.

Mae aelodau o Gadetiaid a Heddlu Bach Heddlu Gwent yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl, ac mae llythyrau wedi cael eu hanfon at 18 o gartrefi gofal hyd yn hyn.

Roedd y gwirfoddolwyr ifanc yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i ymweld â chleifion gyda dementia pan gyflwynodd y Llywodraeth fesurau newydd i rwystro lledaeniad Coronafeirws. Gan nad oeddent yn gallu ymweld mwyach penderfynodd y bobl ifanc ddechrau ysgrifennu llythyrau yn lle.

Dywedodd Alexys Baxter, aelod o Heddlu Bach Ysgol Gynradd Bryn Awel yn Rhymni, Tredegar: “Mae'n drist bod cymaint o bobl yn methu â gweld eu ffrindiau a theuluoedd ond rydym yn gobeithio y bydd ein llythyrau'n rhoi gwên ar eu hwynebau nhw. Gobeithio, pan fydd hyn i gyd drosodd, y byddwn yn gallu ymweld â rhai o'r bobl a dderbyniodd ein llythyrau a siarad â nhw am yr hyn rydym yn ei wneud yn yr Heddlu Bach.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Rwyf yn arbennig o falch o'r gwaith mae ein cadetiaid a Heddlu Bach yn ei wneud i gefnogi rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned.

"Maen nhw'n helpu i lonni calonnau pobl sydd wedi eu hynysu oddi wrth eu ffrindiau a theuluoedd, ac maent yn ein hatgoffa ni y byddwn yn dod allan o hyn yn gryfach os gweithiwn ni gyda'n gilydd."

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae hyn yn rhywbeth gwych i'w weld. Mae Cadetiaid a Heddlu Bach Heddlu Gwent yn esiampl ardderchog i bob un ohonom ni ac rwy'n sicr y bydd eu llythyrau'n codi calon llawer o gleifion bregus."

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn derbyn llythyrau oddi wrth Gadetiaid a Heddlu Bach Heddlu Gwent, cysylltwch â cadets@gwent.pnn.police.uk