Gwanwyn Glân Torfaen
6ed Mai 2022
Ymunodd aelodau fy nhîm a phartneriaid o Gyngor Torfaen a gwirfoddolwyr lleol i godi sbwriel yn Llyn Cychod Cwmbrân ar gyfer Gwanwyn Glân Torfaen eleni.
Dyma ffordd wych i drigolion, a phobl sy'n gweithio'n lleol, gadw eu cymuned yn lanach ac yn fwy gwyrdd.
Wrth gwrs, ni ddylai bod angen gweithgareddau fel hyn. Pe bai pawb yn mynd â'u sbwriel adref gyda nhw byddai cynghorau lleol yn arbed ffortiwn y gellid ei ail fuddsoddi mewn meysydd eraill i wella ansawdd bywyd trigolion lleol.