Grwpiau cymunedol ar hyd Gwent yn dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad ‘Eich Lais, Eich Dewis’
Ymunodd grwpiau cymunedol gyda’i gilydd i wneud cais am gyfran o bot grantiau gwerth tua £60,000 o Gronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent.
Cynhaliwyd digwyddiad 2023 ‘Eich Lais, Eich Dewis’ yng Ngholeg Gwent yng Nghasnewydd gyda 13 grŵp yn cynnig am grant i gefnogi eu prosiect.
Mae ‘Eich Llais, Eich Ddewis’ yn bartneriaeth rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Chymuned Gwent a Sefydliad Cymunedol Cymru i roi grantiau o hyd at £5,000 i grwpiau cymunedol ledled Gwent.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys fformat arloesol o roi grant sy’n galluogi pobl leol i flaenoriaethu atebion i faterion lleol a chefnogi prosiectau ar lawr gwlad.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos 13 grŵp oedd bob un efo pedwar munud i gyflwyno eu prosiect, gyda phob cyflwyniad yn cael ei sgorio gan y grwpiau eraill. Rhoddwyd cyfran o bot grantiau i’r prosiectau y credir eu bod yn mynd i’r afael â’r materion pwysicaf. Roedd fformat y digwyddiad yn caniatáu i grwpiau gyfathrebu eu straeon yn eu ffordd eu hunain a rhannu eu hymgyrch a’u hymrwymiad i wella bywydau yng Ngwent.
Eleni, dyfarnwyd grant aml-flwyddyn i Parish Trust, gyda’r nod o gefnogi cynaliadwyedd a gwydnwch.
Y dathliad hwn, sy’n creu grantiau, yw uchafbwynt calendr Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent a phenllanw blwyddyn o godi arian gan Uchel Siryf presennol Gwent, Malgwyn Davies. Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent yn cyfrannu £65,000 i’r cynllun.
Mae Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yn gweithio’n galed i adeiladu cymunedau mwy diogel yng Ngwent trwy gefnogi prosiectau sy’n mentora ac ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu potensial. Mae’r digwyddiad yma’n gyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sy’n gwneud cymaint i wella bywydau pobl yng Ngwent.
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru: “Roedd yn wych gweld y mudiadau cymunedol yng Ngwent yn arddangos eu prosiectau gwych sy’n helpu i wella bywydau pobl yn eu cymuned leol.
“Mae Eich Llais, Eich Dewis yn rhoi llwyfan i grwpiau cymunedol rannu eu straeon, yn aml trwy eiriau’r bobl maen nhw’n eu helpu. Mae’n rhoi’r grym yn nwylo pobl leol i flaenoriaethu atebion i faterion lleol.
“Llongyfarchiadau a diolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn Eich Llais, Eich Dewis eleni.”
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae grwpiau cymunedol llawr gwlad sy’n cynnig cefnogaeth leol i blant a phobl ifanc yn hanfodol i greu cyfleoedd sy’n llywio pobl ifanc rhag trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae hyn yn rhywbeth rwy’n ei gymryd o ddifrif ac mae’n ymrwymiad allweddol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, a dyna pam, eleni, rwyf wedi cyfrannu £65,000 i gronfa’r Uchel Siryf.
“Rwy’n falch y bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi cymaint o grwpiau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a phobl ifanc yn eu cymunedau.”
Dywedodd Malgwyn Davies, Uchel Siryf Gwent 2022-23: “Roedd hi’n achlysur pan oedd pobl ifanc Gwent yn ennyn brwdfrydedd am y gwasanaethau y gallen nhw eu darparu pe bai cyllid ychwanegol ar gael. Roedd eu hafiaith yn heintus ac yn creu awyrgylch bleserus drwy gydol y digwyddiad.
“Gwnaed gwobrau a fydd yn galluogi gwireddu uchelgais y sefydliadau llwyddiannus, gan fod o fudd i fywydau llawer o’n pobl ifanc.”
Dyma’r sefydliadau a ddyfarnwyd grantiau yn nigwyddiad 2023:
- Made in Tredegar
- The Outdoor Partnership
- Llamau
- The Parish Trust
- Operasonic Cyf
- NYAS
- Cymru Creations
- Rewild Play
- Duffryn Community Link
- TOGs Centre
- The Bridge to Cross CT
- Crimestoppers Trust