Grŵp anabledd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o drosedd casineb

12fed Hydref 2021

 

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda grŵp cyfeillgarwch anabledd lleol My Mates ac yn siarad gyda nhw am eu dealltwriaeth a'u profiadau o drosedd casineb.

Cyfrannodd y grŵp at weithdy gyda Swyddfa'r Comisiynydd, Heddlu Gwent a Mencap Cymru i drafod yr effaith mae trosedd casineb wedi ei gael ar eu bywydau. Gwnaethant gynnig sylwadau ar ddeunyddiau Hawdd eu Darllen hefyd sy'n cael eu creu i helpu pobl gydag anableddau i ddeall sut i riportio digwyddiad a cheisio cefnogaeth.

Cynhaliwyd y sesiwn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb.

 

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Ni fydd unrhyw fath o drosedd casineb yn cael ei goddef yng Ngwent. Gall fod yn ddigwyddiad unigol neu'n rhan o ymgyrch barhaus o aflonyddu neu frawychu. Mae’n drosedd afiach a chymhleth ac mae’n gallu achosi niwed corfforol ac emosiynol i ddioddefwyr sy’n parhau am flynyddoedd.

 

“Mae helpu pob cymuned i ddeall pwysigrwydd riportio troseddau casineb yn hollbwysig.  Bydd creu deunyddiau mewn fformat hygyrch, Hawdd ei Ddarllen, yn rhoi gwybodaeth i unigolion agored i niwed i'w helpu nhw i adnabod arwyddion trosedd casineb a lle i geisio cymorth os ydynt yn dioddef.”   

Mae trosedd casineb yn drosedd y mae'r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn credu sy'n seiliedig ar ragfarn rhywun tuag atynt oherwydd eu:

  • Hil
  • Crefydd neu ffydd
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Anabledd
  • Cyfeiriadedd o ran rhywedd.

 

Gallai fod ar ffurf:

  • Camdriniaeth eiriol neu gorfforol
  • Bwlio
  • Ymddygiad bygythiol
  • Camdriniaeth ar-lein
  • Difrod i eiddo.

Mae'n hollbwysig bod digwyddiadau o drosedd casineb yn cael eu riportio a'u cofnodi gan yr heddlu.


Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.


Os nad yw’n argyfwng, gallwch riportio trosedd casineb trwy:


Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd casineb gallwch fynd at gymorth a chefnogaeth bwrpasol trwy ganolfan dioddefwyr Connect Gwent.

 

Connect Gwent

Ffoniwch: 0300 302 3670

Ewch i: https://connectgwent.org.uk