Gorfodi rheolau parcio

22ain Chwefror 2021

Mae nifer o bobl a gwblhaodd fy arolwg diweddar wedi tynnu sylw at broblemau parcio.

Trosglwyddodd pwerau gorfodi parcio sifil i'r pum awdurdod lleol yng Ngwent yn 2019 a nhw sy'n gyfrifol am orfodi'r rhan fwyaf o reolau parcio ar ffyrdd cyhoeddus. 

Mae'n golygu bod adnoddau pwrpasol i fynd i'r afael â'r broblem hon ac, yn wahanol i'r heddlu, gall y cynghorau gadw'r arian a godir i'w ail fuddsoddi mewn gwelliannau ar y ffyrdd a gwelliannau trafnidiaeth.

Mae mwy o wybodaeth ar gael a gallwch riportio unrhyw broblemau ar wefan eich cyngor lleol:

Blaenau Gwent
Caerffili
Sir Fynwy
Casnewydd 
Torfaen