Ffigyrau trosedd diweddaraf Y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol

22ain Gorffennaf 2020

Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos bod troseddau a gofnodwyd wedi disgyn dau y cant yng Ngwent yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dengys y ffigyrau fod 57,090 o droseddau wedi cael eu cofnodi yng Ngwent ar gyfer y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2020, sy’n llai na’r ffigwr o 58,536 yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos bod Gwent yn parhau i fod yn un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw ynddo yn y DU.

“Mae nifer y dioddefwyr sy'n riportio digwyddiadau o stelcio ac aflonyddu wedi codi ac mae hynny'n gadarnhaol. Fel arfer mae hyn yn gysylltiedig â cham-drin domestig ac mae'n dangos bod gan bobl fwy o hyder i riportio'r troseddau hyn i Heddlu Gwent.

"Roeddwn yn falch i weld cynnydd yn nifer y troseddau cyffuriau a gafodd eu riportio hefyd sy’n galonogol ac yn adlewyrchu plismona cadarnhaol, ac ymrwymiad ar fy rhan i a Heddlu Gwent i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig.

"Mae nifer yr achosion o drais rhywiol a gafodd eu riportio ychydig yn is. Rydym yn gwybod bod hon yn drosedd nad yw pobl bob amser yn ei riportio, ac mae fy swyddfa i'n gweithio gyda Heddlu Gwent a'n partneriaid ar hyn o bryd i wella gwasanaethau i ddioddefwyr.

"Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi dioddef y troseddau hyn i gyflwyno eu hunain a'u riportio."

Os ydych chi'n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae cyngor ar gael ar wefan Diogelu Gwent.

Gallwch ffonio Byw Heb Ofn, llinell gymorth Llywodraeth Cymru, am ddim ar 0808 8010 800 hefyd. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.