Dydd y Cadoediad

12fed Tachwedd 2021

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, bûm ar ymweliad â phorth Menin yn Ypres. Roedd yn brofiad a’m gwnaeth i'n ymwybodol o erchyllterau rhyfel ac a wnaeth i mi sylweddoli cymaint o fywydau a gafodd eu haberthu.

Pan fydd y wlad yn tewi ddydd Sul i gofio Diwrnod y Cadoediad, bydd miliynau o bobl fel minnau yn talu teyrnged i'r rhai sydd wedi marw.

Mae Dydd y Cadoediad yn ddiwrnod i ddangos parch. Parch tuag at y bobl a fu farw yn gwasanaethu eu gwlad ers cychwyn y Rhyfel Mawr.

Ni fu Gwent yn rhydd rhag effaith y Rhyfel Mawr, nac unrhyw ryfeloedd eraill ers hynny. Mae ein cymunedau'n llawn o gyn filwyr; yn llawn o bobl a beryglodd eu bywydau ac a welodd ffrindiau a chymrodyr yn gwneud yr aberth eithaf. Nid aelodau hŷn ein cymunedau yn unig yw'r rhain, ond aelodau iau hefyd. Pob un ohonynt wedi teimlo effaith ddinistriol rhyfel. Mae'n ddyletswydd arnom i gydnabod hyn a rhoi cefnogaeth iddynt.

Pan ysgrifennodd John McCrae "In Flanders field the poppies blow; Between the crosses, row on row" pwysleisiodd y prydferthwch coch a flodeuodd mewn anialdir gwaedlyd. Ac ers hynny mae hwn wedi cael ei drawsnewid yn symbol o obaith.

Mae symbolau o bwys. Mae rhethreg o bwys. Bob mis Tachwedd rwyf yn gwisgo fy mhabi gyda balchder, achos mae'n fy atgoffa i am erchyllterau rhyfel a'r miliynau o fywydau, hen ac ifanc, a ddinistriwyd ganddo. Mae'n hollbwysig ein bod yn cydnabod ac yn cofio'r aberth a wnaethant drosom ni. Achos mae parch o bwys.