Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn 2023

15fed Mehefin 2023

Heddiw rydym yn ymuno â miliynau o bobl o bedwar ban byd i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn.

Yn aml iawn ein trigolion hynaf yw’r rhai mwyaf agored i niwed. Maen nhw’n gallu bod yn arbennig o agored i gamdriniaeth a cham-fanteisio.

Mae angen i ni sicrhau bod ein holl drigolion hŷn yn gwybod beth yw cam-drin, ac os ydyn nhw’n ei ddioddef, bod angen iddyn nhw ddweud wrth rywun am hynny. Mae angen i ni hefyd annog ffrindiau, teulu, gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr a chymdogion i ddatgan eu pryderon os ydyn nhw’n credu bod rhywun yn cael ei gam-drin.

Trwy gydol yr wythnos mae fy nhîm wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Age Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyfannol, a Heddlu Gwent i ddarparu sesiynau i grwpiau cymuned ledled Gwent, i godi ymwybyddiaeth am y mater pwysig yma.

Mae camdriniaeth yn gallu effeithio ar unrhyw un. Gall fod yn gorfforol, meddyliol, rhywiol neu ariannol.

Gall cam-drin corfforol gynnwys toriadau, cleisiau, clwyfau, llosgiadau, esgyrn wedi torri, anafiadau heb eu trin, croen mewn cyflwr gwael neu lendid croen gwael, diffyg hylif a/neu faeth, colli pwysau, cadw pobl oddi wrth wasanaethau iechyd a gofal, a dillad neu eitemau yn y cartref wedi’u difrodi.

Gall cam-drin meddyliol gynnwys straeon annhebygol, bod yn amharod i siarad yn agored, dryswch, bod yn grac heb achos amlwg, newidiadau sydyn mewn ymddygiad, bod wedi cynhyrfu neu wedi cythryblu’n emosiynol, ofn anesboniadwy neu fod yn dawedog, yn llai siaradus neu’n peidio ymateb

Gall cam-drin ariannol gynnwys newid i drefniadau bancio, ewyllys neu asedau rhywun, biliau heb eu talu pan fo rhywun arall i fod i’w talu nhw, costau gofal gormodol, eitemau gwerthfawr yn diflannu, a diffyg arian i dalu am anghenion dyddiol fel bwyd.

Peidiwch â dioddef yn dawel, mae help ar gael.

Age Cymru Gwent
Rhoi amrywiaeth eang o gyngor a chefnogaeth i bobl hŷn gan gynnwys cyngor ar gam-drin pobl hŷn a sgamiau.
Ffoniwch: 01633 240190
Llinellau ar agor rhwng 9am a 2pm, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener

Byw Heb Ofn
Mae Byw Heb Ofn yn rhoi help a chefnogaeth i bobl sy’n profi camdriniaeth, 24 y dydd 7 diwrnod yr wythnos.
Ffoniwch: 0808 80 10 800
Anfonwch neges destun: 07860 077333

Action Fraud
Rhowch wybod i Action Fraud am dwyll, negeseuon testun amheus, neu seiberdrosedd.
Ffoniwch 0300 123 2040

Dydd Llun i ddydd Gwener 8am - 8pm neu riportiwch ar-lein: www.actionfraud.police.uk/
Anfonwch neges destun at 7726 gyda’r gair ‘Call’ wedi ei ddilyn gan rif y sgamiwr.

Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, gallwch ffonio’r ffôn testun ar 0300 123 2050.

Heddlu Gwent
Ffoniwch 101 i riportio digwyddiad. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Os nad ydych chi’n gallu siarad, ffoniwch 999 a phwyso 5 5 pan fydd y cysylltydd yn dweud. Bydd cymorth yn cael ei anfon i’ch lleoliad.

Hourglass Cymru
Mae Hourglass yn rhoi help a chefnogaeth gyfrinachol i bobl hŷn sydd mewn perygl.
Ffoniwch: 0808 808 8141
Anfonwch neges destun: 07860 052906

Bwrdd Diogelu Gwent

Os ydych chi’n pryderu bod person hŷn mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod, cysylltwch:

Blaenau Gwent
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk  

Caerffili

Ffôn: 0808 100 2500
E-bost: IAAAdults@caerphilly.gov.uk  

Torfaen

Ffôn: 01495 762200
E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk  

Casnewydd

Ffôn: 01633 656656
E-bost: firstcontact.adults@newport.gov.uk neu pova.team@newport.gov.uk

Sir Fynwy
Ffôn: 01873 735492
E-bost: MCCadultsafeguarding@monmouthshire.gov.uk