Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Domestig LGBTQ+ 2021
Mae amddiffyn dioddefwyr cam-drin yn bwysig iawn i mi ac mae rhoi cymorth i ddioddefwyr yn un o'r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.
Heddiw yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Domestig LGBTQ+, ac mae'n gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r angen i amddiffyn ein holl gymunedau. Mae cam-drin yn gallu effeithio unrhyw un ac ni fyddaf yn goddef camdriniaeth o unrhyw fath.
Mae dioddefwyr yn teimlo yn ofnus, ynysig ac yn fregus. Roeddwn yn drist i ddarllen adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan dîm Trais yn erbyn Menywod Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent a ddangosodd nad yw cymunedau LGBTQ+ yn aml yn riportio digwyddiadau o gam-drin. Rwyf am i'r mater hwn gael ei gymryd o ddifrif. Rhaid i ni wrando ar ganfyddiadau'r adroddiad. Rhaid i gymunedau LGBTQ+ gael cymorth i adnabod arwyddion cam-drin a bod yn hyderus i riportio cam-drin.
Mae effaith cam-drin o'r fath yn gallu bod yn ddinistriol, felly rwy'n falch i ddarparu cyllid i wasanaethau fel Umbrella Cymru, sy'n cynnig cyngor arbenigol a dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gymunedau LGBTQ+. Mae fy swyddfa wedi chwarae rhan hanfodol yn creu'r unig ganolfan amlasiantaeth i ddioddefwyr yng Nghymru hefyd, Connect Gwent. Mae'r ganolfan yn cynnig cyngor, eiriolaeth, cefnogaeth ac arweiniad i ddioddefwyr, p'un a ydynt yn dewis riportio'r digwyddiad i'r heddlu neu beidio.
Rhaid i ni dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i gymunedau LGBTQ+ a gwneud y dioddefwyr anweladwy yn weladwy.
Peidiwch â dioddef yn dawel. Riportiwch ddigwyddiadau i Heddlu Gwent trwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.
Rhagor o wybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau sy'n gallu darparu cyngor a chefnogaeth:
Byw Heb Ofn
Llinell gymorth gyfrinachol 24/7 am ddim: 0808 08 10 800
Neges destun: 07860077333
E-bost: info@livefearfreehelpline.wales
Sgwrsio ar-lein: https://gov.wales/live-fear-free
Connect Gwent
Gwefan: www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent
E-bost: connectgwent@gwent.police.uk
Ffôn: 0300 123 2133
Umbrella Cymru
Ffôn: 0300 302 3670
E-bost: support@umbrellacymru.co.uk
Neges destun: 07520645700
Galop
Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT+)
Ffôn: 0800 999 5428
E-bost: help@galop.org.uk
Sgwrs gyfrinachol ar-lein: www.galop.org.uk