Disgyblion Cwm Rhymni'n Darlledu'n Fyw Dros y Tonnau Awyr

4ydd Ebrill 2019

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Rhosyn Gwyn wedi bod ar y tonnau awyr ar gyfer eu sioe radio olaf.

Darlledodd disgyblion blwyddyn 5 eu sioe fyw olaf o'r ysgol o flaen amrywiaeth o westeion, gan gynnwys rhieni, athrawon a llywodraethwyr.

Dros gyfnod y prosiect, a oedd yn rhan o'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol ac a oedd yn derbyn cymorth gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, dysgodd y plant sgiliau a oedd yn cynnwys meithrin cadernid, datrys problemau, creadigrwydd a hyder.

Un o'r bobl a oedd yn y gynulleidfa yn y sioe olaf oedd y Pennaeth, Kathryn Thompson, a oedd wrth ei bodd i weld cymaint roedd y plant wedi datblygu mewn wyth wythnos.

“Roeddem am redeg prosiect lle'r oedd y bobl ifanc yn ymgysylltu â'u cymuned leol," dywedodd.

“Rwyf wedi gweld newid nodedig mewn cymaint o'r plant a oedd yn cymryd rhan, gan gynnwys cynnydd yn eu cadernid, eu sgiliau datrys problemau, eu creadigrwydd a'u hyder.”

Roedd athro blwyddyn 5 a 6, Dafydd Carter, a roddodd gymorth i'r plant trwy gydol y prosiect, yn bresennol hefyd. Ar ôl y darllediad, canodd Dafydd glodydd y rhai a oedd yn cymryd rhan am eu gwaith caled a'u hymroddiad: "Mae'r plant yn wir wedi mwynhau defnyddio'r dechnoleg newydd hon ac ymgolli'n llwyr yn y rhaglen waith.

“Nawr bod yr offer yn yr ysgol, gallwn barhau i roi'r gwaith hwn ar waith yn ein cwricwlwm wrth weithio'n agosach fyth gyda grwpiau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus lleol.”

Derbyniodd yr ysgol grant o £4,500 o Gronfa Partneriaeth Swyddfa'r Comisiynydd yn 2017, a gyfrannodd at brynu'r offer ar gyfer yr orsaf radio.

Wrth ddyfarnu'r cyllid, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent – Jeff Cuthbert: “Rwyf wrth fy modd i weld cymaint o blant ifanc yn dod yn rhan o'r fenter hon, yn meithrin cydberthnasau, nid yn unig gyda'i gilydd, ond gyda'u cymunedau lleol.

“Mae wedi bod yn bleser gwrando ar y plant dros yr wyth wythnos diwethaf. Edrychaf ymlaen at glywed mwy ganddyn nhw yn y dyfodol."

I wrando ar sioeau blaenorol yr ysgol, ewch i www.bit.ly/WhiteRosePrimaryRadio.