Deall eich hawliau fel dioddefwr

16eg Chwefror 2024

Mae gan bob dioddefwr trosedd yng Nghymru a Lloegr hawliau penodol sydd wedi eu hamlinellu yn y Cod Dioddefwyr.

Pwy bynnag ydych chi a beth bynnag yw'r drosedd, mae gennych chi hawl i gael gwybod am y broses cyfiawnder troseddol a'r cymorth sydd ar gael.

Asiantaethau cyfiawnder troseddol sy'n gyfrifol am sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn yr hawliau yn y Cod Dioddefwyr. Gallwch ddisgwyl iddynt ddweud wrthych chi am eich hawliau wrth i chi fynd drwy'r broses cyfiawnder troseddol.

Maen nhw'n cynnwys:

  • Yr heddlu
    Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Fawrhydi
  • Timau Troseddau Ieuenctid
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi
  • Heddlu Trafnidiaeth Prydain

Yng Ngwent, mae dioddefwyr yn gallu mynd at gymorth trwy Ganolfan Dioddefwyr Connect Gwent.

Mae rhestr o ddarparwyr lleol ar gael ar ein gwefan.