Datganiad ar gynllun troseddu Llywodraeth y DU

28ain Gorffennaf 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â throseddu, fel y nodir yn ei Chynllun Atal Troseddu newydd, ond mae'n dweud na fydd yn gwneud iawn am 10 mlynedd o ostyngiadau mewn termau real yng nghyllidebau’r llywodraeth.

Mae'r cynllun newydd yn nodi amryw o fentrau, sy'n cynnwys tablau cynghrair i gymharu cyfraddau ateb 101 a 999 yr heddlu, mwy o ddefnydd o dagio i atal aildroseddu, a mwy o fuddsoddiad i gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed.

Fodd bynnag, dywed y Comisiynydd nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i wneud iawn am y toriadau mewn termau real y mae plismona wedi bod yn destun iddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hefyd wedi codi pryderon difrifol o’r peryg y bydd rhoi pwysau afrealistig ar swyddogion heddlu rheng flaen ar adeg pan fo'r galw’n uchel, wrth gyhoeddi’r bwriad i rewi cyflogau ar yr un pryd, yn gwaethygu problem iechyd meddwl gynyddol.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Er fy mod i’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â throseddu ac i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau sy'n cefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed, nid yw'r cynllun hwn yn gwneud iawn am y gostyngiad i gyllid mewn termau real o wasanaeth plismona Llywodraeth y DU dros y 10 mlynedd diwethaf.

“Mae hefyd yn cynnwys nifer o fentrau yr ymddengys nad ydynt wedi eu trafod ac sy'n peryglu tynnu sylw yn wirioneddol oddi wrth y materion mawr sy'n wynebu heddluoedd y DU. Er enghraifft, dylai'r llywodraeth fod yn gweithio gyda heddluoedd sy'n ei chael yn anodd ymateb yn ddigonol i'w galwadau 101 a 999, heb greu 'tablau cynghrair' i gymharu perfformiad.

“Mae'r addewidion hyn yn tynnu sylw ar ei orau ac, ar ei waethaf, mae perygl o danseilio hyder y cyhoedd. Maen nhw wedi'u cyhoeddi ar yr un pryd ag y mae swyddogion a staff o dan bwysau enfawr, ac yn cael clywed y bydd eu cyflogau wedi'u rhewi am flwyddyn arall. Mae argyfwng iechyd meddwl eisoes mewn plismona ac mae perygl y bydd hyn yn gwaethygu.

“Byddwn ni wrth gwrs yn gweithio gyda'r llywodraeth i sicrhau bod pobl Gwent yn elwa gystal ag y gallant o'r cynllun newydd hwn, ond i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom, ac y mae angen i’r cyhoedd eu gweld, mae angen i Lywodraeth y DU ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol a pharhaus mewn plismona rheng flaen a gwasanaethau dioddefwyr yn y tymor hir."