Cynrychiolwyr heddlu'n llofnodi siarter Gwent

31ain Awst 2018

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, a'r Prif Gwnstabl Julian Williams wedi llofnodi Siarter Gwent dros Gydweithio.

Nod y siarter, sydd wedi cael ei hysgrifennu gan aelodau grwpiau 'Pobl yn Gyntaf' ledled Gwent, yw annog cyrff cyhoeddus, elusennau a sefydliadau trydydd sector i wrando ar bobl ag anableddau a pharchu eu hawliau.

Mae hefyd yn helpu pobl sydd ag anabledd i fod yn fwy ymwybodol o'u hawliau a'r hyn y gallant ofyn amdano ac y dylent fod yn gallu gofyn amdano.

Dywedodd Mr Cuthbert: “Ysgrifennwyd y siarter hon gan aelodau Pobl yn Gyntaf a bydd yn chwarae rhan bwysig yn sut y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'n trigolion mwyaf bregus.

“Mae hwn yn waith gwych gan grwpiau Pobl yn Gyntaf sy'n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu i godi llais a magu hyder i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.

“Mae egwyddorion y siarter, sef diogelu, hygyrchedd a helpu i fynd i'r afael â throseddau casineb yn chwarae rhan allweddol yn ein busnes bob dydd. Felly pleser o'r mwyaf yw croesawu aelodau Pobl Casnewydd yn Gyntaf yma i fod yn dyst i lofnodi'r siarter."

Fel rhan o'r ymrwymiad, mae Heddlu Gwent a Swyddfa'r Comisiynydd wedi cwblhau hyfforddiant yn ddiweddar i baratoi ar gyfer cyflwyno cynllun Cadwa'n Ddiogel Cymru yng Ngwent.

Cynllun cardiau yw Cadwa'n Ddiogel Cymru sy'n cofrestru gwybodaeth hanfodol am ddefnyddwyr, megis unrhyw anableddau, anghenion cyfathrebu neu heriau ymddygiadol sy'n rhoi mwy o wybodaeth i'r heddlu ac felly'n gwella ymateb yr heddlu.

Dywedodd Prif Gwnstabl Julian Williams: “Roedd yn wych croesawu aelodau o Bobl yn Gyntaf i'r llu heddiw i'n galluogi ni i arwyddo'r siarter hon, sy'n annog gwahanol sefydliadau i barchu pobl ag anableddau dysgu trwy roi dewisiadau a chaniatáu i aelodau bregus ein cymunedau fyw eu bywydau yn y ffordd maen nhw’n dewis.

“Yn bwysig, mae'r siarter yn gwneud pobl ag anableddau'n ymwybodol o'u hawliau ac yn rhoi llais iddynt, wrth gynnal rhannau allweddol o'n busnes ni bob dydd. Mae'n bleser gan Heddlu Gwent gefnogi'r gwaith pwysig hwn.

Mae'r siarter yn ymrwymo i roi cymorth i bobl gyflawni'r canlynol:

  • Hawliau cyfartal
  • Gweithio gyda ni a chael eu clywed
  • Bod yn annibynnol
  • Ceisio am gyfleoedd i gael eu cyflogi.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd cyd-gysylltydd prosiect Pobl Casnewydd yn Gyntaf, Keti Rock: “Mae'r siarter wedi cael ei hanfon at sefydliadau ledled Gwent i gael ei llofnodi, gan gynnwys yr holl gyrff cyhoeddus mawr ac asiantaethau cymorth yn y rhanbarth. Rydym yn gobeithio y bydd sefydliadau, trwy lofnodi'r siarter yn ymgorffori'r egwyddorion hyn yn eu gwaith bob dydd.

"Mae ein haelodau wedi gweithio'n galed iawn ar y siarter hon ac rydym yn falch iawn fod y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl wedi ymrwymo