Cynllun Cysgodi Heddlu

2il Chwefror 2024

Mae Cynllun Cysgodi Heddlu Gwent yn cynnig cyfle i aelodau'r cyhoedd ymuno â swyddogion ar batrôl a phrofi plismona dyddiol drostynt eu hunain.

Gallwch wneud cais am ba awdurdod lleol yr hoffech fod wedi eich lleoli ynddo ac a hoffech ymuno â swyddogion heddlu cymdogaeth, neu dreulio amser gyda'r tîm ymateb, sef yr ymatebwyr cyntaf mewn sefyllfaoedd brys.

Am fwy o fanylion ac i wneud cais ewch i wefan Heddlu Gwent.