Cymorth i ffoaduriaid a phlant sydd wedi'u masnachu

18fed Mawrth 2020

Mae Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, wedi rhoi cyllid i elusen yng Nghasnewydd sy'n cefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed sydd wedi’u masnachu i'r DU, neu sydd wedi cyrraedd i geisio lloches.

Mae Casnewydd yn gartref i oddeutu traean y plant sydd ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches yng Nghymru, ac mae llawer ohonynt yn agored i gam-fanteisio gan gangiau troseddol.

Mae prosiect y Sanctuary yng Nghasnewydd yn cynnig cyngor a chymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yn y ddinas, gan eu diogelu a'u helpu i gael gafael ar wasanaethau. Mae hefyd yn helpu i leihau allgau cymdeithasol drwy wirfoddoli, gweithgareddau cymdeithasol a datblygu sgiliau iaith Saesneg.

Mae’r cyllid gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn talu am weithiwr cymorth penodedig i weithio gyda phlant ac oedolion ifanc.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Dyma rai o'r plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn ein cymuned, ac mae llawer ohonyn nhw wedi dianc o wledydd sydd wedi'u rhwygo gan ryfel neu wedi'u masnachu i mewn i'r DU i weithio i gangiau cyffuriau.

"Trwy gynnig ystod o gymorth ymarferol ac emosiynol iddyn nhw gyda gweithiwr cymorth penodedig, mae prosiect y Sanctuary yn eu helpu i osgoi cymryd rhan mewn trosedd ac i’w hintegreiddio â thrigolion lleol, gan ddatblygu cymuned fwy cydlynus yn y ddinas."

Dywedodd Mark Seymour, o brosiect y Sanctuary: "Efallai fod y bobl ifanc hyn wedi dianc rhag perygl uniongyrchol ond maen nhw'n dal i wynebu sawl her. Heb y cymorth cywir gallai llawer fod yn agored i weithio yn anghyfreithlon, cymryd rhan yn y fasnach gyffuriau neu gael eu denu i eithafiaeth.

"Rydym yn ddiolchgar i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu am roi'r cyllid hwn i ni. Bydd yn ein galluogi i barhau i gefnogi'r rhai hynny sydd mewn angen, gan eu helpu i ddod o hyd i lety, cyflogaeth ac aros mewn addysg."