Cyhoeddir Prif Gwnstabl newydd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent

12fed Awst 2019

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi penodi Pam Kelly yn Brif Gwnstabl newydd Heddlu Gwent.

Mae cyn Ddirprwy Brif Gwnstabl Gwent, Ms Kelly, wedi bod yn gwasanaethu fel Prif Gwnstabl Dros Dro ers i’r Prif Gwnstabl cynt, Julian Williams, ymddeol ym mis Mehefin. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd Ms Kelly fel ymgeisydd o ddewis Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Cadarnheuwyd ei phenodiad gan y Panel Heddlu a Throseddu mewn cyfarfod ym Mrynbuga.

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu “Swyddogaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw penodi’r Prif Gwnstabl, ac mae’n bleser mawr gen i gyhoeddi Pam Kelly yn Brif Gwnstabl newydd Heddlu Gwent.

“Daeth Pam Kelly drwy’r broses dethol fel ymgeisydd rhagorol. Dangoswyd yn gryf ei gwybodaeth, ei phrofiad a’i hymrywmiad i bobl Gwent. Mae’r Panel Heddlu a Throseddu wedi cytuno mai hi yw’r ymgeisydd gorau am y swydd ac hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth.

“Hoffwn longyfarch Pam Kelly ar ei rôl newydd ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos â hi.”

Mae cadarnhau penodiad Prif Gwnstabl gan y Panel Heddlu a Throseddu yn orfodol o dan Ddeddf yr Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Rôl y Panel yw sicrhau agoredrwydd a thegwch y proses dethol a phenodi Prif Cwnstabliaid.

Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Mae’n fraint gen i gael fy nghadarnhau yn Brif Gwnstabl gan y Panel Heddlu a Throseddu yn ôl cwmeradwyaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

“Wedi byw yng Nghymru ar hyd f’oes, rydw i’n hynod o falch i allu arwain un o’r heddluoedd Cymru.

“Mae plismona’n effeithio arnon ni i gyd, a rydw i’n sylweddoli maint y cyfrifoldeb sydd arnaf i wneud yn siŵr ein bod ni yno i’r bobl sydd yn ein hangen fwyaf.

“Gan fod dros bedair blynedd ar hugain o wasanaeth gen i, rydw i’n deall yn iawn y gofynion ar ein gweithlu a natur newidiol plismona. Rydym yn datblygu’n gyson, ond gyda’r bobl iawn, yr hyfforddiant iawn a’r gefnogaeth iawn i’n swyddogion a staff, byddwn ni’n darparu gwasanaeth sy’n gweithio i’n cymunedau.

“Dydyn ni ddim ar ein pennau ein hunain yn ein dyletswyddau, gyda’n gilydd mae angen i ni barhau i greu partneriaethau cryf er mwyn cadw Gwent yn ddiogel. Mae rhaid i ni chwilio’n gyson am gyfleoedd i gyd-weithio er lles ein cymunedau.

“Drwy fy nghyrfa, helpu’r bobl fwya bregus yn ein cymunedau sydd wedi bod yn brif ysgogiad i mi, yn ogystal â dwyn troseddwyr i gyfrif. Nawr fy mod i wedi cael fy mhenodi’n Brif Gwnstabl, mae’r ysgogiad yma’n fwy pwysig i mi nag erioed.

“Rydw i’n hyderus, gyda chefnogaeth fy swyddogion a staff, ein bod ni mewn sefyllfa dda i barhau’r gwasanaeth sydd gan ein cymunedau hawl i’w ddisgwyl.

“Mae angen nawr i ni wella ar hyn sy’n gweithio yn barod a datblygu’r cyfeiriad meddwl i archwilio technolegau a sgiliau newydd a fydd yn mynd â Heddlu Gwent ymlaen at y dyfodol.

“Rydw i eisiau i swyddogion Gwent fod yn falch o’r gwasanaeth y darparwn gyda’n gilydd, rydw i eisiau i’r to ifanc, o gymunedau Gwent i gyd, eisiau bod yn rhan o’r gwasanaeth yma, ac rydw i eisiau i’n cymunedau fod yn hyderus y byddwn ni yno iddyn nhw, pan fo’r angen mwyaf arnynt.”

[Llun: Gill Howells, Cadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Gwent. Pam Kelly Prif Gwnstabl Heddlu Gwent. Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent. Colin Mann. Is-gadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Gwent.]