Cyfarchion y Tymor

20fed Rhagfyr 2017

Yn ei golofn ddiwethaf ar gyfer 2017, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn myfyrio ar berfformiad Heddlu Gwent dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi’r lefel gywir o amddiffyniad a thawelwch meddwl i breswylwyr. . .

“Cyfarchion cynhesaf y tymor i bob un ohonoch. Yn fy mlwyddyn lawn gyntaf fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu rwyf wedi ymweld â llawer o gymunedau ac rwyf wedi gwrando’n ofalus ar eich barn a’ch pryderon.

Trwy ystyried eich adborth gwerthfawr, roeddwn yn falch o ddatblygu fy mlaenoriaethau heddlu a throseddu ar gyfer Gwent yn gynharach eleni a lansio fy nghynllun pedair blynedd ar gyfer yr heddlu a throseddu sy’n dangos sut y bydd gwasanaethau heddlu a throseddu’n cael eu darparu.

Rwyf wedi cael fy nghalonogi gan berfformiad Heddlu Gwent eleni eto ac mae’n bleser gweld y gwasanaeth yn derbyn graddau da yn gyson gan Arolygwyr EM mewn perthynas â’r ffordd y mae’n cadw pobl yn ddiogel, gwarchod y rhai mwyaf agored i niwed a darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol. Mae’r Arolygiaeth yn ystyried Heddlu Gwent yn un o’r gwasanaethau sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn awr. Mae’n dod yn batrwm cadarnhaol, ac yn un yr ydym am ei barhau. Ein nod, fodd bynnag, yw dod yn wasanaeth eithriadol.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad nodedig ein swyddogion a staff a’r balchder sydd ganddynt yn y gwaith maen nhw’n ei wneud. Mae hefyd oherwydd ymdrechion ein partneriaid yn y gymuned sy’n cefnogi ein gwaith. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt.

Rwy’n gwybod bod plismona hygyrch a gweladwy yn flaenoriaeth allweddol i lawer o bobl ac roeddwn yn falch o sicrhau cyllid i alluogi Heddlu Gwent i recriwtio 180 o swyddogion heddlu newydd yn ystod 2017/18 i atgyfnerthu’r rheng flaen. Mae hyn yn dangos ein hymroddiad i ddarparu’r lefel gywir o amddiffyniad a thawelwch meddwl ar eich cyfer. Fy mlaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod cyllid yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol mewn plismona rheng flaen a hoffwn recriwtio mwy o swyddogion yn y flwyddyn newydd i sicrhau bod gennych chi lefel briodol o blismona.

Gyda hyn mewn golwg, lansiais ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod y mis diwethaf yn gofyn i breswylwyr faint maen nhw’n fodlon talu am eu plismona lleol. Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal tan 4pm dydd Sul 7 Ionawr 2018. Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn helpu i lywio fy ystyriaethau wrth bennu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf (2018/19) a lefel y praesept (elfen blismona eich Treth Cyngor). Gallwch gwblhau fersiwn ar-lein yr arolwg trwy’r ddolen ganlynol www.bit.ly/GwentPrecept18-19.

Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf. Byddaf yn parhau i weithio’n galed ar wella plismona a gyrru partneriaethau hanfodol yn eu blaenau i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Fel arfer, byddaf yn canolbwyntio ar atal troseddu, rhoi blaenoriaeth i ddioddefwyr a sicrhau bod pobl Gwent yn derbyn gwasanaeth o’r ansawdd gorau posibl.

Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a diogel i bawb a Blwyddyn Newydd Dda iawn.”

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert