Cydnabyddiaeth i’r Prif Gwnstabl yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

2il Mehefin 2022

Mae Prif Gwnstabl Pam Kelly wedi cael Medal yr Heddlu gan y Frenhines yn rhan o’i Hanrhydeddau Pen-blwydd ar gyfer 2022.

Ymunodd Prif Gwnstabl Kelly â Heddlu Gwent yn 2017 ar ôl dechrau ei gyrfa gyda Heddlu Dyfed-Powys ym 1994.

Fe’i penodwyd yn Brif Gwnstabl Gwent gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, ym mis Awst 2019.

Meddai Jeff Cuthbert: “Ers i mi benodi Prif Gwnstabl Kelly yn 2019 mae ei harweinyddiaeth wedi cael ei brofi mewn ffyrdd na allem ni fyth fod wedi eu rhagweld.

“Mae ymateb i’r pandemig, digwyddiadau tywydd garw a phryderon yn ein cymunedau yn wyneb problemau byd-eang wedi gofyn am arweinyddiaeth gref. Mae’r ffordd y mae Prif Gwnstabl Kelly wedi ymateb i alwadau’r blynyddoedd diwethaf wedi gwneud argraff barhaus arnaf ac mae ei hymroddiad i sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl i bobl Gwent wedi bod yn amlwg trwy’r amser. 

“Mae hi’n sbarduno newid diwylliant o fewn Heddlu Gwent ac yn cael ei gwasanaethu’n fedrus gan dîm cadarn o brif swyddogion. Gyda’i gilydd maen nhw’n canolbwyntio ar amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.

“Rwyf wrth fy modd bod gwaith caled ac ymroddiad Prif Gwnstabl Kelly wedi cael eu cydnabod gyda Medal yr Heddlu gan y Frenhines a hoffwn ddiolch iddi’n bersonol am bopeth mae hi wedi ei wneud i bobl Gwent.”