Cydnabyddiaeth gan Dogs Trust i’r Cynllun Lles Anifeiliaid

4ydd Gorffennaf 2022

Rwyf wrth fy modd bod y Cynllun Lles Anifeiliaid, sy'n cael ei reoli gan fy nhîm ac sy'n sicrhau bod cŵn Heddlu Gwent yn cael eu trin yn dda a bod y safonau uchaf yn cael eu bodloni o ran lles, wedi cael ei ardystio gan Dogs Trust.

Mae ein hymwelwyr lles anifeiliaid yn chwarae rhan hollbwysig yn sicrhau bod cŵn heddlu'n derbyn gofal o'r safon uchaf, a bod eu lles corfforol ac emosiynol yn cael ei warchod.

Mae'r ardystiad gan Dogs Trust yn golygu bod yr elusen yn fodlon bod gwirfoddolwyr lles anifeiliaid Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn darparu gwasanaeth o safon uchel, a'u bod yn hapus i weithio gyda Heddlu Gwent i ddarparu cŵn sydd wedi cael eu hachub i gael eu hyfforddi yn y dyfodol.

Hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr lles anifeiliaid am eu holl waith caled a'u hymroddiad.