Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n nodi blwyddyn gyntaf y Prif Gwnstabl

13eg Awst 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi nodi blwyddyn gyntaf Prif Gwnstabl Pam Kelly wrth y llyw yn Heddlu Gwent.

Penodwyd Ms Kelly gan Mr Cuthbert ym mis Awst 2019 gyda chefnogaeth Panel Heddlu a Throseddu Gwent.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae sawl digwyddiad mawr wedi digwydd yn ystod blwyddyn gyntaf Prif Gwnstabl Kelly: o'r llifogydd a brofodd Gwent ar ddechrau 2020, argyfwng Covid-19 a misoedd o gyfyngiadau symud, a'r protestiadau a phryder cymunedol yn dilyn marwolaeth George Floyd yn America.

"Mae'r holl broblemau hyn wedi gofyn am arweinyddiaeth dda. Mae'r ffordd mae Prif Gwnstabl Kelly wedi ymateb i ddigwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud argraff fawr arnaf ac mae ei hymrwymiad i sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl i bobl Gwent wedi bod yn amlwg o'r cychwyn.

“Mae hi'n sbarduno newid diwylliannol o fewn Heddlu Gwent ac mae'n cael ei gwasanaethu'n fedrus gan dîm cryf o brif swyddogion. Gyda'i gilydd maen nhw'n canolbwyntio ar amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.

"Hoffwn ddiolch i Brif Gwnstabl Kelly am ei holl waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda hi am lawer o flynyddoedd yn y dyfodol."