Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n galw ar drigolion i aros gartref ac achub bywydau

2il Tachwedd 2020

“Arhoswch gartref. Achubwch fywydau”. Dyna'r neges gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, sy'n pwysleisio y dylai pobl leol gadw at gyfyngiadau cyfnod atal byr Covid-19 Llywodraeth Cymru.

Rhaid i drigolion aros gartref cymaint â phosibl, rhaid iddynt beidio â theithio oni bai bod hynny'n angenrheidiol a rhaid iddynt beidio â chwrdd â phobl o aelwydydd eraill nes bydd cyfyngiadau'n llacio yng Nghymru ddydd Llun 9 Tachwedd.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Rydym yng nghanol argyfwng gofal iechyd. Mae achosion o Covid-19 yn codi yn y gymuned. Mae pobl yn marw.

"Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr wythnos nesaf yn glir iawn. Arhoswch gartref cymaint â phosibl, peidiwch â theithio oni bai bod rhaid i chi a pheidiwch â chwrdd â phobl o aelwydydd eraill.

“Mae'r mesurau dwys hyn yn hollbwysig i helpu i ysgafnhau'r pwysau ar y GIG a lleihau trosglwyddiad Covid-19 yn y gymuned. 

"Os bydd pawb ohonom yn cyd-dynnu yn awr ac yn gwneud yr hyn a ofynnir, y gobaith yw y gallwn osgoi mwy o gyfyngiadau llymach yn ystod y misoedd nesaf.

“Rydym yn gwybod beth sydd angen ei wneud ac rwyf yn dawel fy meddwl bod y rhan fwyaf o bobl yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn gwneud yr hyn sy'n ofynnol ganddynt.

"Fodd bynnag, os ydych yn dewis anwybyddu'r cyfyngiadau hyn, gall Heddlu Gwent gymryd camau gorfodi yn eich erbyn chi.

"Felly byddwch yn gyfrifol, daliwch i ddilyn y canllawiau, cadwch yn ddiogel a helpwch i achub bywydau yn eich cymuned."