Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n cefnogi ymgyrch genedlaethol diogelwch gyrwyr

14eg Medi 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn cefnogi ymgyrch gyrru'n ddiogel Prosiect EDWARD eleni, sy'n rhedeg rhwng 14 ac 18 Medi ac sy'n canolbwyntio ar bobl sy'n gyrru i'r gwaith a phobl sy'n gyrru fel rhan o'u gwaith.

Mae EDWARD yn golygu "Every Day Without A Road Death".

Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Lywodraeth y DU yn dangos bod rhyw 42,000 o yrwyr wedi cael eu hanafu neu wedi marw wrth yrru i'r gwaith neu mewn digwyddiadau'n ymwneud â gwaith yn 2018.

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, yw arweinydd diogelwch ar y ffyrdd Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Dywedodd: “Mae'r siawns o fod yn rhan o wrthdrawiad sy'n arwain at anaf neu farwolaeth wrth yrru ar gyfer gwaith tua 1 mewn 500.

“Gan fod miloedd o siwrneiau cysylltiedig â gwaith yn digwydd bob dydd yng Ngwent, y gwirionedd trist yw bod ein gwasanaethau brys yn ymdrin â'r digwyddiadau hyn yn rheolaidd. Gellid osgoi pob un ohonynt.

“Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni gadw'n ddiogel a sicrhau bod y gwasanaethau brys ar gael i'r bobl sydd eu hangen nhw fwyaf, felly byddwch yn fwy gofalus a chadwch yn ddiogel ar y ffyrdd.”

Mae achosion cyffredin o wrthdrawiadau ar y ffyrdd sy'n gysylltiedig â gwaith yn cynnwys gyrru'n rhy gyflym, diffyg cynnal a chadw cerbydau a gyrwyr wedi blino.

Gydol yr wythnos bydd Heddlu Gwent yn rhedeg nifer o fentrau diogelwch gyrwyr a diogelwch ar y ffyrdd ledled Gwent.