Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n cefnogi ymgyrch Crimestoppers

29ain Gorffennaf 2020

Mae'r elusen genedlaethol Crimestoppers wedi lansio ymgyrch newydd ar draws Cymru i helpu pobl ifanc i gadw'n ddiogel rhag cyffuriau a cham-fanteisio.

Mae'r ymgyrch ddigidol, a hyrwyddir trwy gyfrwng gwasanaeth ieuenctid yr elusen Fearless yn codi ymwybyddiaeth o'r niwed y gall delwyr cyffuriau ei achosi, yn benodol sut maen nhw'n cam-fanteisio ar blant a phobl ifanc.

Mae Crimestoppers yn gofidio am ddiffyg riportio gan bobl ifanc, yn arbennig y rhai sydd mewn perygl o fod yn destun cam-fanteisio. Trwy gyfrwng astudiaethau achos dienw, nod yr ymgyrch yw helpu pobl ifanc i adnabod yr arwyddion ac i godi eu llais am drosedd a cham-fanteisio.

Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Cymru elusen Crimestoppers, “Mae'r straeon yr ydym yn eu rhannu yn ystod yr haf eleni trwy gyfrwng ein hymgyrch Fearless.org yn dangos pa mor hawdd y mae troseddwyr yn targedu ac yn cam-fanteisio ar bobl ifanc agored i niwed, ac yn eu perswadio i symud a delio cyffuriau. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i bobl ifanc ac rydym am iddynt wybod ein bod ni yma ar eu cyfer os bydd ganddynt wybodaeth am drosedd.

“Ein neges i bobl ifanc yw os ydych yn gofidio am eich cyswllt chi gyda throseddau cyffuriau, neu'n gofidio am gyswllt ffrind gyda throseddau cyffuriau, gan gynnwys Llinellau Sirol, mae'n syniad da cael sgwrs gydag oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddynt a thrafod eich pryderon gyda nhw. Ond i'r rhai sy'n dymuno rhoi gwybodaeth am Linellau Sirol a chyffuriau yn ddienw, gallwch droi at wefan Fearless er mwyn defnyddio ein ffurflen ar-lein. Mae'n helusen yn gwneud gwahaniaeth bob dydd er mwyn helpu pobl i gadw'n ddiogel, ond ni allwn wneud hyn heb eich cymorth chi.”

Datblygwyd gwasanaeth Fearless.org Crimestoppers er mwyn hysbysu a grymuso pobl ifanc ynghylch materion troseddol y gallent effeithio arnynt. Er enghraifft, mae 'Stori Amy' yn rhannu hanes merch ifanc yn ei harddegau a oedd ar wahân ac yn cael anhawster yn yr ysgol, a ddenwyd i fyd delio cyffuriau.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert:

"Mae'r niwed mae gangiau cyffuriau yn ei wneud i'n cymunedau yn gymhleth. Mae'r troseddau hyn yn gudd yn aml ac yn targedu rhai o'r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas.

"Mae'n rhan o'r darlun ehangach o droseddau difrifol a threfnedig sy'n effeithio ar fwy o ddinasyddion y DU nac unrhyw fygythiad arall i ddiogelwch gwladol.

“Mae fy swyddfa wedi ariannu tîm Fearless i weithio ledled Gwent ers Ionawr 2019 ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi cyflwyno sesiynau ar droseddau cyllyll, camfanteisio ar blant a symud cyffuriau i ymron i 14,000 o bobl ifanc. Mae'r gwaith yn rhoi'r addysg a'r ddealltwriaeth i bobl ifanc adnabod y problemau hyn ymysg eu grwpiau o ffrindiau a chymunedau, a hefyd i roi'r wybodaeth a'r hyder iddynt riportio'r troseddau hyn.

"Rwyf yn llwyr gefnogi'r ymgyrch diweddaraf hwn ac yn gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl ifanc i godi llais ynglŷn â'r materion hyn."

I weld y straeon, dysgu mwy am Fearless.org a rhoi gwybodaeth yn ddienw am drosedd a cham-fanteisio, ewch i dudalen yr ymgyrch yma.