Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn llongyfarch y Prif Weinidog newydd
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi llongyfarch y Prif Weinidog newydd, Liz Truss, ar ei phenodiad.
Meddai Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Hoffwn longyfarch Liz Truss ar ei phenodiad yn Brif Weinidog.
“Mae wedi gwneud llawer o addewidion ynglŷn â phlismona yn ystod ei hymgyrch, ac mae’n rhaid i ni geisio deall beth mae hyn yn ei olygu i ni yma yng Nghymru wrth i ni symud ymlaen.
“Mae ei galwad am ymyrraeth uniongyrchol gan y llywodraeth o ran perfformiad heddluoedd, swyddogaeth sy’n cael ei chyflawni gan gomisiynwyr yr heddlu a throsedd ar hyn o bryd, angen esboniad a dealltwriaeth bellach.
“Ond mae’n rhaid mai ei blaenoriaeth ddiamod yn awr yw’r argyfwng costau byw. Mae miliynau o bobl, heb unrhyw fai arnyn nhw, yn wynebu bygythiad o dlodi a methu â fforddio bwyd. Yn anorfod, bydd hyn yn arwain at ganlyniadau i gymdeithas ac i blismona os nad yw hi’n gweithredu’n fuan.
“Byddwn yn dilyn datblygiadau’n ofalus yn ystod yr wythnosau nesaf ac yn gobeithio cael cyfarfod rhwng comisiynwyr yr heddlu a throsedd yma yng Nghymru a’r Gweinidog Plismona cyn gynted â phosibl.”