Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent yn galw ar y Prif Weinidog i ddarparu ‘darlun clir o’r gyllideb ar gyfer plismona’’

22ain Mawrth 2018

Heddiw ymunodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, â Syr David Norsgrove, Cadeirydd Awdurdod Ystadegau’r DU a chomisiynwyr heddlu a throseddu eraill i alw ar y Prif Weinidog, Theresa May, i ddarparu “darlun clir a gonest” o’r gyllideb ar gyfer plismona.

Daw’r alwad yn dilyn canfyddiad gan Awdurdod Ystadegau’r DU, nad oedd y Prif Weinidog, er iddi honni yn ystod y sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog bod Llywodraeth y DU “nid yn unig yn gwarchod cyllidebau plismona, ond yn eu cynyddu gyda £450m ychwanegol”, wedi hysbysu’r aelodau seneddol a oedd yn bresennol a’r rhai yn yr oriel gyhoeddus y byddai £270m o’r setliad cyllido yn dod o gynnydd yn nhreth y cyngor yn lleol, pe bai comisiynwyr heddlu a throseddu a meiri’n dewis codi’r lefelau yn eu hardaloedd unigol.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert “Rwyf wedi ymgyrchu o’r blaen i gael Llywodraeth y DU i gynyddu cyllid ar gyfer ein gwasanaethau heddlu a lleihau pwysau ar gymunedau lleol.

Yr hyn roedd y Prif Weinidog yn cyfeirio ato mewn gwirionedd yn ei ‘£450 miliwn’ oedd setliad arian parod safonol i luoedd heddlu yng Nghymru a Lloegr a oedd, mewn gwirionedd, yn gyfystyr â thoriad yng ngrantiau’r llywodraeth ganolog i’r heddlu mewn termau real. Mae cyllideb Heddlu Gwent eisoes wedi cael ei thorri 40% mewn termau real ers dechrau mesurau cyni Llywodraeth y DU yn 2010/11, gan fy ngadael i a llawer o’m cydweithwyr heb fawr o ddewis ond troi at y boblogaeth leol i sicrhau bod gan Heddlu Gwent y cyllid angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel.

Gofynnaf felly ar Theresa May a’i gweinidogion i fod yn glir a gonest gyda’r cyhoedd ynghylch y gyllideb ar gyfer plismona ac i beidio â’u camarwain gyda’r propaganda hwn.”

 

 

 

 

Rhannu hyn:
Y NEWYDDION DIWEDDARAF

Mae cyllid ar gael i roi cymorth i blant a phobl ifanc
28th August 2020

Pobl ifanc Cwmbrân yn mynd i ryfel yn erbyn sbwriel
27th August 2020

Tîm yr heddlu sy'n mynd i'r afael â thrawma yn ystod plentyndod yn ennill gwobr Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
25th August 2020
Gwent Police Logo