Cefnogi dysgwyr yng Ngwent
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi bod yn cefnogi Ffeiriau Glas Fyfyrwyr Coleg Gwent sy'n dychwelyd i'r coleg ar ddechrau'r tymor newydd.
Cymerodd y tîm ran mewn digwyddiadau ar safleoedd Coleg Gwent yn Crosskeys, Cwmbrân, Glynebwy, Casnewydd a Brynbuga.
Buont yn siarad â dysgwyr am y materion sy'n effeithio arnynt yn eu cymunedau ac yn dosbarthu eitemau atal trosedd a chyngor i helpu i'w cadw nhw'n ddiogel.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: Mae'r newid o'r ysgol i'r coleg yn gallu bod yn enfawr. Mae pobl ifanc yn dod yn llawer mwy annibynnol yn ystod y cyfnod yma ac mae'n gyfle da i siarad â nhw am eu diogelwch personol.
"Siaradodd fy nhîm gyda dysgwyr am y materion sy'n achosi'r mwyaf o bryder iddynt yn eu cymunedau hefyd a bydd yr wybodaeth yma'n fy helpu i lywio fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer Gwent.
"Os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, cymerwch ychydig funudau i lenwi fy arolwg, rhoi eich barn, a fy helpu i ddatblygu fy mlaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngwent ac i wneud gwahaniaeth i’n cymunedau.”
Dweud eich dweud