Cadwch yn ddiogel ar y ffyrdd y Nadolig yma

18fed Rhagfyr 2023

Mae heddluoedd Cymru'n targedu pobl sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau trwy fis Rhagfyr.

Mae gyrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau ar gynnydd, er bod pawb yn gwybod am beryglon gwneud hynny. Ni ellir cyfrifo faint gall rhywun yfed ac aros o dan y terfyn cyfreithiol, ac mae un diod yn gallu amharu ar eich gallu i yrru'n ddiogel.

Gallai euogfarn am yrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau arwain at waharddiad rhag gyrru am isafswm o 12 mis, hyd at chwe mis yn y carchar, dirwy ddiderfyn, ardystiad ar eich trwydded yrru am 11 mlynedd, a chofnod troseddol. Y gosb uchaf am achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad diod neu gyffuriau yw carchar am oes.