Byddwch yn ymwybodol o sgamiau Coronafeirws
Fel rhan o Bythefnos Ymwybyddiaeth o Sgamiau, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, yn rhybuddio trigolion i fod yn ymwybodol o seiber-sgamiau sy'n gysylltiedig â'r Coronafeirws.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y twyllwyr sy’n defnyddio Coronafeirws fel ffordd o fanteisio ar bobl ddiniwed a chymryd symiau mawr o arian oddi wrthynt.
"Cofiwch fod yn wyliadwrus ar-lein a dilyn y cyngor diweddaraf gan Heddlu Gwent i osgoi bod yn ddioddefwr sgamiau ar-lein."
Mae Tîm Seiberddiogelwch Heddlu Gwent wedi nodi’r sgamiau mwyaf cyffredin sy'n cynnwys:
Siopa ar-lein: Mae pobl wedi archebu masgiau amddiffyn yr wyneb, diheintydd dwylo a chynhyrchion eraill na wnaeth bydd gyrraedd. Gwnewch waith ymchwil ar wefannau nad ydych chi’n eu hadnabod cyn prynu. Os ydych yn penderfynu bwrw ymlaen, defnyddiwch gerdyn credyd gan fod y rhan fwyaf o ddarparwyr cardiau credyd yn yswirio pryniannau ar-lein.
Negeseuon e-bost a thestun gwe-rwydo: Yn honni eu bod nhw’n dod o sefydliadau fel Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), CThEM, Netflix, Amazon, Byrddau Iechyd Lleol a chynghorau lleol. Gallai'r negeseuon e-bost/ testun hyn gynnwys dolenni ac atodiadau maleisus a allai arwain at dwyllwyr yn dwyn gwybodaeth bersonol, manylion mewngofnodi a chyfrineiriau e-bost, a manylion banc. Peidiwch â chlicio ar ddolenni nac atodiadau mewn negeseuon e-bost, gwnewch waith ymchwil a pheidiwch byth ag ymateb gyda’ch manylion personol nac ariannol.
Cyfarpar profi o ddrws i ddrws: Mae galwyr amheus wedi bod yn curo ar ddrysau trigolion oedrannus ac agored i niwed gan honni eu bod nhw’n swyddogion iechyd sy'n gwneud profion o ddrws i ddrws. Peidiwch ag ateb y drws i neb nad ydych yn ei adnabod nac unrhyw un sy’n galw ar hap. Mae’r profion hyn ar gael gan y GIG yn unig.
Negeseuon ffug ynglŷn â phrydau bwyd ysgol: Mae rhai rhieni wedi derbyn negeseuon testun a negeseuon e-bost yn cynnig prydau am ddim sy'n gofyn am fanylion banc. Nid yw'r rhain yn gyfreithlon ac ni ddylech ymateb ag unrhyw wybodaeth.
Os ydych chi wedi dioddef sgam ar-lein gallwch hysbysu trwy gyfrwng gwefan Action Fraud www.actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040. Gallwch geisio cymorth gan Ganolfan Dioddefwyr Connect Gwent hefyd, naill ai ar-lein ar www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent neu drwy ffonio 0300 123 2133. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.