Blwyddyn yn ddiweddarach | Yr Uned Gofal Dioddefwyr
Cafwyd dros 48,000 o atgyfeiriadau dioddefwyr yn ystod blwyddyn gyntaf uned gofal dioddefwyr Heddlu Gwent.
Ar ôl cael ei lansio ym mis Gorffennaf y llynedd, yr uned yw’r prif bwynt cyswllt i ddioddefwyr, o’r cam cyntaf yn adrodd am drosedd, at ddiwedd y broses cyfiawnder troseddol.
Mae’r uned wedi cael 48,461 o atgyfeiriadau dioddefwyr yn ystod ei 12 mis cyntaf, lle mae swyddogion gofal dioddefwyr arbenigol yn gweithio gyda swyddogion heddlu eraill i sicrhau bod dioddefwyr yn cael diweddariadau rheolaidd ar eu hymchwiliad.
Bydd swyddogion gofal dioddefwyr yn gweithio gydag asiantaethau partner i helpu pobl i gael cymorth ychwanegol pan fydd angen, ac mae hyn wedi arwain yr uned i wneud 7,425 o alwadau cychwynnol llwyddiannus i ddioddefwyr, ac i gwblhau 6,191 o asesiadau manwl o anghenion.
Meddai’r Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Mae dioddefwyr wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud yn Heddlu Gwent.
“Gall troseddu gael effaith ddinistriol, ac mae’n hanfodol bod dioddefwyr yn cael y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i’w helpu i ymdopi ac adfer.
“Flwyddyn yn ddiweddarach, mae adborth ar yr uned gan y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn awgrymu ei bod wedi gwella’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu i’n cymunedau.
“Mae rhoi ein model ni ar waith yn llwyddiannus wedi arwain gwasanaethau heddlu eraill i ystyried cyflwyno cynlluniau tebyg i helpu dioddefwyr i gael y cymorth gorau yn eu hardaloedd nhw.
“Rydyn ni’n gwybod pan fydd dioddefwr yn cael y cymorth cywir, nid yn unig mae’n eu helpu i adfer, ond gall leihau’r siawns y byddan nhw’n ddioddefwyr unwaith eto.
“Pan fydd hyn yn cyd-fynd ag ymchwiliad effeithiol, mae’n rhoi hyder i bobl yn y system cyfiawnder troseddol, i helpu i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
“Hoffwn ddiolch i’r dioddefwyr troseddau hynny a gynorthwyodd gyda’r gwaith o ddatblygu’r uned gofal dioddefwyr, a’r dioddefwyr troseddau sydd wedi cael eu hatgyfeirio ers hynny - mae eich adborth wedi helpu i wneud gwahaniaeth i’n cymunedau.”
Mae’r swyddogion gofal dioddefwyr hefyd wedi cael eu hyfforddi i asesu anghenion unigol dioddefwyr, a gallan nhw gynnig cymorth wedi’i deilwra iddyn nhw.
Fel rhan o’u rôl, nid yn unig maen nhw’n un pwynt cyswllt ar gyfer y dioddefwr, ond byddan nhw hefyd yn gweithredu fel eiriolwr drostyn nhw, er mwyn sicrhau bod eu hawliau’n cael eu bodloni’n gyson o dan god ymarfer y dioddefwr.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae dioddef trosedd yn gallu cael effaith ddinistriol ar fywyd rhywun ac mae’n hollbwysig ein bod yn ymateb yn briodol i ddioddefwyr.
“Mae’r uned gofal dioddefwyr yn ddatblygiad o’r gwaith arloesol rydym wedi ei wneud yma yng Ngwent fel yr heddlu cyntaf i ddod â gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr at ei gilydd o dan un to. Mae’n golygu bod dioddefwyr yn gallu elwa ar gyswllt rheolaidd gyda swyddog gofal dioddefwyr pwrpasol yn awr, sy’n sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth lawn a’u bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu hachos trwy gydol y broses cyfiawnder troseddol.
“Mae rhoi cymorth i ddioddefwyr troseddau ac amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn flaenoriaeth i mi ac mae’r uned newydd yn ein galluogi ni i ddefnyddio dull mwy tosturiol, sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr, ym mhopeth rydym yn ei wneud.”