Blwyddyn Newydd Dda

2il Ionawr 2020

Hoffwn ddechrau 2020 trwy ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch chi a diolch i’r swyddogion a staff heddlu, a chydweithwyr yn y gwasanaethau brys, a oedd ar ddyletswydd dros gyfnod y Nadolig.

Mae'n anodd iawn bod i ffwrdd oddi wrth eich teuluoedd ar yr adeg hon o'r flwyddyn ac rwyf i, a holl drigolion Gwent rwy'n siŵr, yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

Roedd y llynedd yn flwyddyn arbennig o brysur, i'm swyddfa i ac i Heddlu Gwent.

Mae esblygiad parhaus ymddygiad troseddol yn dal i fod yn her sylweddol i blismona ar adeg pan mae gwasanaethau wedi wynebu pwysau ychwanegol trwy gyfnod estynedig o leihad mewn cyllid gan y llywodraeth.

O ganlyniad, yn 2019 penderfynais ddiweddaru fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, y ddogfen sy'n rhoi cyfeiriad strategol i blismona yng Ngwent.

Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn thema amlwg trwy'r cynllun cyfan ac mae hyn er mwyn pwysleisio ei bwysigrwydd ac i sicrhau bod ein trigolion mwyaf bregus yn cael eu gwarchod ac yn parhau i gael blaenoriaeth gan Heddlu Gwent.

Prif ffocws y cynllun o hyd yw atal trosedd a byddaf yn dal i geisio darparu'r gwasanaeth gorau posibl i wella diogelwch cymunedol, gwarchod pobl fregus a rhoi cymorth i ddioddefwyr trosedd, gyda phwyslais arbennig ar ddioddefwyr niwed difrifol.

Gallwch ddarllen y cynllun llawn ar fy ngwefan.

Yn ffodus, rwy'n cael cymorth gan Brif Gwnstabl newydd Heddlu Gwent, Pam Kelly, a benodais ym mis Awst. Roedd ei gwybodaeth, ei phrofiad a'i hymrwymiad i bobl Gwent yn amlwg trwy gydol y broses ddethol ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda hi yn ystod 2020. Rydym yn rhannu gweledigaeth ar gyfer Gwent lle mae ein cymunedau'n llefydd diogel a bywiog i fyw a gweithio ynddynt a lle, gyda'n partneriaid, gallwn ddarparu'r ansawdd bywyd gorau i'n trigolion.

Brexit fu'r pwnc mwyaf amlwg yn y newyddion trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf ac ni welais gyfnod erioed yng ngwleidyddiaeth y DU lle bu cymunedau mor rhanedig.

Ond mae'r etholiad cyffredinol wedi digwydd yn awr a rhaid i ni symud ymlaen. Beth bynnag yw eich barn wleidyddol, mae'n amser i ni fod yn oddefgar ac amyneddgar. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i feithrin gwell cydlyniant rhwng ein cymunedau.

Rwy'n siwr y bydd 2020 yn dod â'i heriau ei hun ond rwy'n hyderus y gallwn fynd i'r afael â nhw trwy weithio gyda'n gilydd. Mae sefyll gyda’n gilydd yn gwneud pob un ohonom ni’n gryfach.

Hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb yng Ngwent.