Blog: Mis Hanes Pobl Dduon 2019
Roeddwn wrth fy modd i siarad yn nigwyddiad Mis Hanes Pobl Dduon Race Council Cymru yng Ngwent, ddydd Llun 21 Hydref.
Roedd y digwyddiad, ar y thema 'Ysgogwyr, Arloeswyr a Chrewyr ein Hetifeddiaeth', yn dathlu amlddiwylliannaeth ein gwlad, sydd wedi cael ei chyfoethogi gan hanes ac amrywiaeth pawb sy'n byw yma.
Yn drist, mae pwysau gwleidyddol a phryderon cymdeithasol ac economaidd ar hyn o bryd yn golygu ein bod yn wynebu heriau ac ansicrwydd. Mae hyn wedi newid ymdeimlad o berthyn llawer o bobl ac, ar ei waethaf, mae wedi cynyddu tensiynau a rhannu cymunedau, gan arwain at weithredoedd o niwed sylweddol gan rai pobl tuag at bobl eraill.
Er mwyn herio agweddau ac ymddygiad o'r fath mae'n rhaid i ni barhau i hyrwyddo a gwarchod ein hegwyddorion o oddefgarwch, cynhwysiant a chydraddoldeb.
Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, fy rôl i yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am y ffordd mae gwasanaethau plismona'n cael eu darparu yng Ngwent. Rhan o'r gwaith hwn yw sicrhau bod unrhyw un sy'n ymdrin â'r heddlu yn cael ei drin yn gyfartal, yn deg a chyda pharch.
Yma yng Ngwent, mae ein heriau plismona'n amrywio'n ddramatig ar draws ardal ddaearyddol gymharol fechan, ac mae ein cymunedau ni'n newid yn gyflym. Mae deall sut mae materion megis troseddau casineb a stopio a chwilio yn effeithio ar ein cymunedau yn hollbwysig wrth hyrwyddo hyder a chydlyniant.
Mae gweithio gyda sefydliadau megis Race Council Cymru yn allweddol er mwyn deall yn well y problemau mae llawer o'n trigolion duon a lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu, ac er mwyn ymgysylltu â nhw i helpu i roi sylw i unrhyw brofiadau negyddol maen nhw wedi eu cael.
Rydym am i bobl deimlo'n hyderus y bydd Heddlu Gwent yn rhoi cymorth iddyn nhw pan fyddan nhw'n cysylltu, y bydd eu pryder yn cael ei gymryd o ddifrif ac y byddan nhw'n derbyn gwasanaeth da.
Mae'r blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol ar y Cyd fy swyddfa i a Heddlu Gwent yn dangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth hiliol, nid yn unig o fewn ein cymunedau ond ar draws ein gweithluoedd hefyd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau, hyd eithaf ein gallu, bod ein gweithluoedd yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn i bobl fod yn hyderus ein bod yn deall eu hanghenion a disgwyliadau fel trigolion.
Mae gan Heddlu Gwent Swyddog Gweithredu Cadarnhaol yn y Gymuned pwrpasol, sy'n annog a chodi ymwybyddiaeth o gyfleoedd recriwtio Heddlu Gwent ar draws grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli. Mae'r swydd hon yn golygu ein bod yn gallu datblygu strategaeth hirdymor ar gyfer gweithlu cynrychioliadol i wella ein gallu i recriwtio a chadw gweithlu mwy amrywiol, gan roi cymorth i bobl ddatblygu yn eu gyrfa gyda'r heddlu.
Mae gweithredu cadarnhaol wedi'i dargedu fel rhan o ymgyrchoedd recriwtio wedi dyblu cynrychiolaeth weladwy pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ymysg swyddogion a staff heddlu.
Yn drist, mae bylchau penodol mewn cynrychiolaeth o hyd, ac rydym yn gweithio i ddenu benywod du ac Asiaidd yn benodol.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn gyfle i ni ddod at ein gilydd i ddathlu, i gofio, i hyrwyddo ac i addysgu. Trwy ddod at ein gilydd fel hyn rydym yn dathlu ein hunigrywiaeth a'r hunaniaeth Gymreig rydym yn ei rhannu, a gwerthoedd cyffredin ar draws y cenedlaethau.
Rydym ni'n cofio ein bod ni’n well gyda’n gilydd ac mai trwy ddysgu o wersi’r gorffennol y byddwn ni'n creu gwell dyfodol i’r rhai sy’n dilyn.