Astudiaeth yn dangos bod llai o bobl yn cael eu hanafu mewn ymosodiadau treisgar
Dengys astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd bod y nifer o bobl a ddioddefodd anaf mewn digwyddiad o drais difrifol yng Nghymru a Lloegr wedi lleihau 1.7 y cant yn 2018.
Edrychodd ymchwilwyr ar nifer y bobl a gafodd eu derbyn i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a oedd wedi cael eu hanafu mewn ymosodiadau treisgar.
Mae'r ffigyrau'n dangos darlun gwahanol i ddata'r heddlu, sy'n dangos bod digwyddiadau o droseddau treisgar wedi cynyddu yn ystod yr un cyfnod.
Hoffwn sicrhau trigolion bod y siawns o ddioddef ymosodiad treisgar yng Ngwent yn isel iawn. Mae gennym un o'r lefelau isaf o droseddau'n ymwneud â chyllyll yn y DU.
Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd yn ategu ac yn tynnu sylw at ba mor anodd yw hi i greu darlun cywir o droseddau treisgar yn ein cymunedau.
Nid yw cynnydd yn nifer y troseddau a gofnodir gan yr heddlu o reidrwydd yn golygu bod lefel y troseddu wedi codi.
Mae ffactorau fel newidiadau i'r ffordd mae troseddau'n cael eu categoreiddio, gwelliannau o ran cywirdeb cofnodi troseddau o fewn lluoedd heddlu, a mwy o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o fathau penodol o droseddau yn gallu arwain at gynnydd yn y ffigyrau.
Fyddwn ni byth yn hunanfodlon a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn meysydd sy'n cael blaenoriaeth i wneud Gwent yn lle mwy diogel, ond rwy'n gobeithio y bydd yr ymchwil annibynnol hwn yn tawelu meddwl trigolion rhywfaint.