Astudiaeth achos: Prosiect Cymunedol Pobl Ifanc Casnewydd

29ain Gorffennaf 2020

Mae Prosiect Cymunedol - Pobl Ifanc Casnewydd (Prosiect Pobl Ifanc Maendy gynt) yn cael ei redeg o Dŷ Cymunedol Maendy ar Heol Eton yng Nghasnewydd ac mae'n cael ei ariannu trwy Gronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Cafodd y prosiect ei ariannu i ddechrau yn 2019/20 a gwnaeth gais llwyddiannus yn ddiweddar am fwy o gyllid ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Mae'r cyllid yn talu i weithwyr ieuenctid ddarparu prosiectau addysgol a dargyfeiriol i blant a phobl ifanc, ynghyd ag arian ar gyfer gweithgareddau a chostau cysylltiedig.

Gall pobl ifanc gyfeirio eu hunain at y prosiect ac mae gweithwyr ieuenctid yn cwrdd â phobl ifanc trwy waith yn y gymuned a gwaith ieuenctid ar y stryd hefyd.

Mae'r cymorth a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnig gan y Prosiect yn helpu i gadw rhyw 75 o bobl ifanc oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y gwyliau ac ar ôl ysgol.

 

Astudiaeth achos

Dechreuodd un person ifanc ddod i'r prosiect a oedd yn dangos ymddygiad negyddol gan gynnwys difrodi eiddo, ymladd, ysmygu canabis, canu larymau tân a bod yn amharchus tuag at staff.

Dywedodd pobl ifanc eraill wrth staff bod ofn arnynt. Pan fyddai staff yn gweld y person ifanc yn y stryd byddai’r person ifanc yn eu hanwybyddu.

Sylwodd gweithwyr ieuenctid bod y person ifanc yn ymddwyn yn gadarnhaol pan oedd yn dawnsio, felly gwnaethant gyflogi tiwtor dawns i gynnal sesiynau yn y Tŷ Cymunedol.

I ddechrau, roedd y person ifanc yn amheus a byddai'n dod i'r sesiynau'n hwyr, ond ar ôl ychydig o ddyfalbarhad dangosodd ddiddordeb. Ymhen amser gofynnwyd i'r person ifanc greu dawns gyda ffrindiau a pherfformio mewn digwyddiad yn y gymuned.

Roedd hwn yn destun balchder mawr i'r person ifanc ac i'r staff yn y prosiect. Helpodd i wella perthynas staff y prosiect gyda'r person ifanc a gwelsant newid cadarnhaol yn ymddygiad cyffredinol y person ifanc.

Mae'r person ifanc yn awr yn treulio amser mewn gweithgareddau clwb ieuenctid ochr yn ochr â phobl ifanc eraill a oedd yn ofnus o'r blaen. Mae hyn yn dangos bod y bobl ifanc sy'n rhan o'r prosiect wedi sylwi ar newid cadarnhaol hefyd.

Mae'r person ifanc yn ymwybodol o ddisgwyliadau a gwerthoedd gweithwyr ieuenctid ac yn annog pobl eraill i beidio ag ymddwyn yn negyddol. Mae'r person ifanc wedi cofrestru i ennill cymwysterau dawns yn awr a fydd yn golygu y bydd yn gallu dysgu eraill.

Un o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol mae staff wedi sylwi arno yw, pan fyddant yn gwneud gwaith allgymorth ar y stryd yn awr mae'r person ifanc yn gwenu arnynt ac yn gofyn iddynt beth sydd ganddynt ar y gweill.